Elusen yn dod â gwleidyddion Cymru ynghyd i drafod mabwysiadu
Mae’r elusen flaenllaw Adoption UK yn dod â chynrychiolwyr o bum prif blaid wleidyddol Cymru ynghyd i drafod mabwysiadu, cyn Etholiadau’r Senedd yn 2021.
Bydd y digwyddiad hustyngau ar-lein, o’r enw: Ydy pobl ifanc wedi’u mabwysiadu yn cael cyfle teg yng Nghymru? yn cael ei gynnal ddydd Mercher 10 Chwefror, rhwng 7.30pm a 9pm.
Bydd y panel yn cynnwys Julie Morgan (Llafur Cymru), Dirprwy Weinidog presennol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Jo Watkins (Ymgeisydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru); Helen Mary Jones, (Plaid Cymru) AS Cyfredol; Neil McEvoy, (Propel) AS Cyfredol; a’r Ymgeisydd Anthony Slaughter (Plaid Werdd Cymru).
Bydd pob panelwr yn nodi cynlluniau eu plaid i gefnogi mabwysiadu yng Nghymru, gyda chwestiynau gan y gynulleidfa i ddilyn. Bydd rhai cwestiynau’n cael eu cyflwyno ymlaen llaw tra bydd eraill yn cael eu gofyn yn fyw, ar y noson.
Dywedodd Ann Bell, Cyfarwyddwr Cymru Adoption UK: “Mae hwn yn gyfle gwych i holi cynrychiolwyr o’r pleidiau gwleidyddol sy’n cystadlu am yr hyn y byddant yn ei wneud i deuluoedd sy’n mabwysiadu a p’un a fyddant yn rhoi blaenoriaeth i fabwysiadu. Byddwn yn annog y gymuned fabwysiadu a’r rhai sy’n gweithio yn y sector i ddod draw i glywed yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud.
“Mae’r weinyddiaeth bresennol wedi cymryd camau gwych i fuddsoddi mewn cymorth i deuluoedd sy’n mabwysiadu dros y pum mlynedd diwethaf. Ond gwyddom fod canlyniadau i blant wedi’u mabwysiadu yn dal i lusgo ymhell y tu ôl i’w cyfoedion. Mae’n hanfodol bod y llywodraeth nesaf yn blaenoriaethu teuluoedd sy’n mabwysiadu i helpu i bontio’r bwlch hwn. Rydym yn gwybod bod angen cymorth ar bobl ifanc wedi’u mabwysiadu i’w helpu i gyflawni eu potensial.”
Mae cofrestru ar gyfer digwyddiad hustyngau’r etholiad, a gynhelir gan ddefnyddio fformat Gweminar ar Zoom, ac a fydd yn cael ei gadeirio gan Betsan Powys ar BBC Cymru, bellach ar agor yn http://bit.ly/hustings2021Y dyddiad cau i gofrestru yw 3pm ddydd Mercher 10 Chwefror.
Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i gyflwyno eu cwestiynau unwaith y byddant wedi cofrestru.
Bydd cyfleusterau cyfieithu’n cael eu darparu fel y gall unrhyw un sydd am gymryd rhan yn y Gymraeg wneud hynny a bydd eu cwestiynau’n cael eu cyfieithu i’r Saesneg.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle