Y Groes Goch Brydeinig yn galw am gymorth ariannol ac iechyd meddwl targedig i bobl sydd wedi cyrraedd pen eu terfyn oherwydd y pandemig

0
452

Mae’r Groes Goch Brydeinig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol ac emosiynol targedig i’r rheiny sydd ei angen yn ystod y pandemig, gan fod adroddiad newydd yn dangos nad yw digon o bobl yn hyderus y gallent gael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mewn arolwg barn diweddar, nododd dau ym mhob pump o bobl yng Nghymru nad oeddent yn hyderus y byddent yn gwybod ble i fynd i gael cymorth ariannol (41 y cant) nac ychwaith i gael cymorth iechyd meddwl neu emosiynol (37 y cant) pe byddai angen yn ystod y cyfyngiadau lleol.

Gyda chyfyngiadau aros gartref yng Nghymru wedi’u hymestyn tan o leiaf 19 Chwefror, mae’r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru – yn ogystal â Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol – i wneud mwy i sicrhau y gall pobl sy’n wynebu caledi dderbyn y cymorth ariannol ac emosiynol brys sydd ei angen arnynt.

Mae hyn yn cynnwys ehangu meini prawf y Cynllun Cymorth Hunanynysu i gynyddu nifer y bobl ar gyflogau isel sy’n manteisio arno, a chynnal buddsoddiad ychwanegol i’r Gronfa Cymorth Dewisol, i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn gallu defnyddio’r cymorth ariannol brys.

Mae’r alwad hon ochr yn ochr â’r Groes Goch Brydeinig yn cyhoeddi adroddiad newydd ‘Y Flwyddyn Hiraf: Bywyd dan gyfyngiadau lleol‘ sy’n archwilio profiadau pobl sy’n byw a gweithio dan gyfyngiadau Covid-19 yn y DU.

Wrth lansio ei hadroddiad heddiw (9 Chwefror), mae’r Groes Goch yn adnabod y ddau grŵp sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan y pandemig. Gelwir y grŵp cyntaf yn ‘rhai sydd newydd ddod yn agored i niwed’, tra bod yr ail grŵp yn adnabod pobl sydd wedi cyrraedd ‘pen eu terfyn’, gan fod Covid wedi gwaethygu’r heriau yr oeddent eisoes yn eu hwynebu.

Dengys arolygon barn a gynhaliwyd ochr yn ochr â chyhoeddiad yr adroddiad, yng Nghymru:

Nid oedd dros draean o oedolion yn hyderus ynghylch ble i fynd i gael cymorth ariannol (41 y cant) na chymorth iechyd meddwl neu emosiynol (37 y cant) pe byddai angen dan gyfyngiadau lleol 

Dywedodd traean (33 y cant) o bobl na fyddent yn hyderus dan gyfyngiadau lleol o ran ble i fynd i gael cymorth i gael bwyd pe byddai angen

Mae hanner oedolion Cymru (50 y cant) yn ei chael hi’n anodd siarad am eu problemau, gan fod cymaint yn cael amser caled yn ystod y pandemig.  

Er mwyn mynd i’r afael ag anghenion y ddau grŵp, mae’r Groes Goch yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • Ehangu meini prawf y Cynllun Cymorth Hunanynysu er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl ar gyflogau isel â phosib yn manteisio arno pe byddai angen iddynt hunanynysu. Yn yr Alban, mae cynllun tebyg wedi cael ei ymestyn i bawb sy’n gweithio ar gyflog o dan y Cyflog Byw Gwirioneddol, pobl sy’n derbyn gostyngiadau’r dreth gyngor a phobl dros 16 oed gyda chyfrifoldebau gofal, os yw’r gofalwr yn bodloni meini prawf cymhwysedd eraill[2].
  • Cynnal buddsoddiad cynyddol i’r Gronfa Cymorth Dewisol (cronfa cymorth brys sy’n darparu dau fath o grant ariannol nad oes angen i bobl eu had-dalu) ac adolygu materion ynghylch ymwybyddiaeth isel ymysg y cyhoedd.
  • Sicrhau bod gwybodaeth am gymorth iechyd meddwl ac emosiynol yn cael ei chyhoeddi’n gyson ochr yn ochr â diweddariadau am gyfyngiadau’r cyfnod clo, er mwyn normaleiddio pobl yn gofyn am gymorth wrth i’r wlad adfer ar ôl y pandemig. 
  • Sicrhau bod gan bob un o’r saith o fyrddau iechyd lleol y capasiti, yr adnoddau a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn bodloni anghenion iechyd meddwl, unigrwydd ac emosiynol unigol y rhai sydd fwyaf agored i niwed.

Yn Y Flwyddyn Hiraf, mae’r Groes Goch wedi canfod bod y grŵp ‘sydd newydd ddod yn agored i niwed’ yn cynnwys pobl sydd heb fod angen gofyn am gymorth o’r blaen – maent yn ansicr o ran ble i fynd i gael cymorth ac yn amharod i ofyn am gymorth oherwydd y stigma y dylent fod yn gallu ymdopi ar eu pennau eu hunain gan fod cymaint yn cael trafferthion ar hyn o bryd. 

Mae’r ail grŵp, sydd bellach wedi cyrraedd “pen eu terfyn” yn bobl oedd bron yn ymdopi cyn y pandemig, sydd nawr yn wynebu dewisiadau amhosib rhwng talu eu biliau, prynu bwyd neu brynu dillad i’w plant. 

Mae Prudence, 39, ffoadur o Dde Affrica sydd bellach yn byw yn Abertawe, ymysg y rhai oedd bron yn gallu ymdopi cyn i’r pandemig ddechrau. 

Yn fuan ar ôl symud i’r DU, cafodd brofiad o drais domestig a digartrefedd, ond mae bellach wedi sicrhau llety diogel a pharhaol iddi hi a’i mab ifanc.

Mae’n ei chael hi’n anodd dal i fyny â’r cyfyngiadau sy’n newid yn aml, a doedd hi ddim yn gwybod am y cymorth ychwanegol sydd ar gael i helpu gyda phrynu bwyd, cyllid y cartref ac iechyd meddwl.

Gan nad oes ganddi deulu yn y DU, roedd gweld ffrindiau a mynd i grwpiau cymorth yn hynod bwysig iddi, ond mae’r pandemig wedi dod â hynny i ben. 

Eglura: “‘Dw i wedi bod yn cadw mewn cyswllt gyda phobl dros y ffôn, ond gall fod yn anodd. Cyn COVID ro’n i’n dibynnu ar y ffrindiau hynny… does gen i ddim teulu’n byw yn agos. Fi yw’r unig berson o fy nheulu yn y wlad hon. 

“Pan nad ydych chi’n dod o’r DU, mae angen y grwpiau cymorth hyn. Mae gweld pobl wyneb yn wyneb yn gwneud gwahaniaeth mawr.” 

Gan nad yw ei phlentyn yn mynd i’r ysgol mwyach, mae Prudence yn gadael y tŷ yn llai aml, ac mae hynny’n “rhwystredig” iddi.

Mae Prudence yn derbyn budd-daliadau a chymorth incwm. Ar hyn o bryd, mae’n chwilio am waith oherwydd bydd yn colli ei chymorth incwm y flwyddyn nesaf pan fydd ei mab yn cael ei ben-blwydd yn 5 oed. Mae’n dwlu ar goginio, ac yn awyddus i goginio bwyd da, ond yn aml mae’n rhaid iddi dorri i lawr ar y bwyd y mae’n ei brynu pob wythnos er mwyn ymdopi. “‘Dw i hyd yn oed wedi cael benthyciad cyllidebu”, meddai.

Roedd sydynrwydd y cyfnod atal byr ym mis Hydref yng Nghymru yn syndod iddi, a bu mewn sefyllfa lle cafodd ei gadael yn yr orsaf fysys, yn methu mynd adref. 

“Nid yw gwybodaeth yn cael ei dangos i ni mewn ffordd y gallwn ni ei deall,” dywedodd.

Yn ôl Kate Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru, y Groes Goch Brydeinig:  

“Mae’n hynod ofidus bod cymaint yn cael trafferthion i gael gafael ar y cymorth ariannol ac emosiynol sydd ei angen arnynt.

“Mae’n hanfodol bod y wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn cael ei chyhoeddi’n gyson ochr yn ochr â diweddariadau am gyfyngiadau’r cyfnod clo, er mwyn normaleiddio gofyn am gymorth wrth i’r wlad gael yn ôl ar ei thread ar ôl y pandemig. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld camau calonogol iawn yn cael eu rhoi ar waith yng Nghymru o ran taclo unigrwydd, ac mae’n rhaid i’r gwaith hwn barhau er mwyn sicrhau bod y rheiny sydd angen yn gallu cael gafael ar gymorth un i un sy’n canolbwyntio ar y person. Hoffwn sicrhau bod pawb yn cael y cymorth sydd ei angen, a byddai llacio meini prawf y taliadau hunanynysu yn sicrhau bod rhagor o bobl yn cael eu hamddiffyn gan ymyriadau positif y llywodraeth.

“Yna, dylai’r map allan o’r cyfnod clo fynd i’r afael ag effeithiau economaidd a chymdeithasol hirdymor COVID-19 ym mhob rhan o gymdeithas.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle