Diolch Brenhinol i staff BIP Hywel Dda

0
502
Sally Owen, Pennaeth Recriwtio a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gweithlu / Sally Owen, Head of Recruitment and Workforce Equality, Diversity and Inclusion

Derbyniodd aelod o weithlu BIP Hywel Dda alwad ffĂ´n arbennig yr wythnos hon gan Ei Uchelder Brenhinol Dug Caergrawnt.

Roedd Sally Owen, Pennaeth Recriwtio a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gweithlu, o Heol Clarbeston, Sir Benfro, yn falch iawn o dreulio amser yn trafod pa mor rhyfeddol y bu’r flwyddyn ddiwethaf hon i holl weithwyr y Gwasanaeth Iechyd, yn ystod galwad ffĂ´n bersonol gyda Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog William.

Meddai Sally: “Roedd Ei Uchelder Brenhinol yn awyddus i glywed am weithio yn y Gwasanaeth Iechyd yma yng ngorllewin Cymru, a throsglwyddodd ei ddiolch i’n holl weithwyr yma yn BIP Hywel Dda. Roedd yn hollol swrreal siarad â’r tywysog – braint enfawr a phrofiad y byddaf yn ei drysori.”

Llwyddodd Sally i rannu ei phrofiad personol o weithio yn y Gwasanaeth Iechyd yn ystod y pandemig COVID-19.

“Roedd Ei Uchelder Brenhinol yn awyddus i glywed am yr ymdrech a’r gwaith sy’n gysylltiedig â rolau cefnogi y tu ôl i’r rheng flaen ac roeddwn yn gallu rhannu gydag ef yr ymdrech enfawr gan ein holl weithlu a thimau corfforaethol” meddai Sally.

Mae wedi bod yn gyflawniad rhyfeddol, diolch i’n gweithlu a staff recriwtio, fod BIP Hywel Dda wedi cynnig cyflogaeth i dros 2,000 o unigolion wrth ymateb i COVID-19, mewn swyddi sy’n amrywio o nyrsys cofrestredig a gweithwyr cymorth gofal iechyd i weithwyr domestig, arlwyo a phorthorion.

“Er ein bod ni wrth ein bodd â’n cyflawniadau, mae’r ffaith ein bod ni wedi cael 4,000 o ymgeiswyr yn dangos y caledi go iawn sy’n wynebu ein cymunedau ar hyn o bryd” meddai Sally.

Roedd gan Ei Uchelder Brenhinol ddiddordeb hefyd mewn clywed am yrfa flaenorol Sally yn gwasanaethu yn y Fyddin Brydeinig rhwng 1990 a 2001.

Esboniodd Sally: “Mae brawdoliaeth y fyddin yn bresennol yn y Gwasanaeth Iechyd hefyd ac mae pandemig COVID wedi gweld pob un yn ymateb i helpu, peidio â mynd i banig yn llygad y storm a theimlad go iawn o berthyn. Dywedais wrth y Tywysog hefyd am ein hymrwymiad at lesiant ac arweinyddiaeth dosturiol wrth i’n gweithlu barhau i wynebu heriau dieithr.”

Anogir staff sydd angen cymorth ychwanegol yn ystod yr amser hwn i siarad â’u rheolwr llinell neu gysylltu â gwasanaethau seicolegol a llesiant staff.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle