Hyfforddwr ac ymgynghorydd diogelwch fferm proffesiynol, ffrind a mentor i bawb – Brian Rees, ffermwr o Abaty Cwm-hir, yw enillydd un o’r gwobrau amaethyddiaeth uchaf ei bri yng Nghymru

0
272
Farming Connect / Welsh Assembly Government: Brian Rees - Professional farm safety trainer & consultant pictured at his home farm Penbryncennau, Nr. Abbeycwmhir, Llandrindod Wells in Powys, Mid Wales. Brian has recently won one of Welsh agriculture’s most prestigious awards - the Lantra Wales Lifetime Achievement Award. Brian has been recognised for the key role he has played over 35yrs raising awareness of what is widely acknowledged as a poor safety record within the UK agricultural industry and his tireless professional work to train individuals and businesses to learn and improve on farm safety. He has also provided leadership within the industry in his role as a past of the Wales Farm Safety Partnership. Brian is pictured at home with his dog, on farm. For full news release please contact Amanda Arter, Farming Connect on 07962 - 230066. Pic by: RICHARD STANTON. Tel: (01432) 358215 / Mob: (07774) 286733. Email: richard@stantonphotographic.com All rights 15/02/21, (please see terms of repro use). www.stantonphotographic.com Image is copyrighted - © 2021.

Brian Rees, yr arbenigwr a hyfforddwr diogelwch fferm adnabyddus, o Abaty Cwm-hir, ger Llandrindod, yw enillydd un o’r gwobrau amaethyddiaeth uchaf ei bri yng Nghymru, Gwobr Cyflawniad Oes Lantra Cymru.  

Cafodd Brian ei ddisgrifio fel gwir lysgennad dros ddiogelwch fferm gan Peter Rees, cadeirydd Lantra Cymru, a chadeirydd y panel beirniaid eleni. Mae Brian wedi treulio dros 35 mlynedd yn codi ymwybyddiaeth am record diogelwch gwael y diwydiant amaethyddiaeth yn y Deyrnas Unedig, lle mae sawl bywyd a bywoliaeth wedi’u colli bob blwyddyn.  

“Mae Brian wedi ymroi y rhan fwyaf o’i fywyd proffesiynol i’r ymgyrch hynod bwysig hon dros y blynyddoedd, gan roi hyfforddiant diogelwch fferm i filoedd o ffermwyr ar draws y Deyrnas Unedig.   

“Mae hefyd wedi arwain y diwydiant yn ei rôl fel cyn-gadeirydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, cydweithrediad rhwng holl brif randdeiliaid gwledig Cymru, a gafodd ei sefydlu er mwyn helpu i wella diogelwch ffermydd, coedwigaeth a busnesau gwledig cysylltiedig eraill.  

“Yn ogystal â hyn, mae’n fentor diogelwch fferm cymeradwy Cyswllt Ffermio, yn ymweld â ffermydd unigol i roi cyngor cyfrinachol ar sut i wneud ffermydd Cymru yn lleoedd gwaith mwy diogel. 

“Mae gan Brian wybodaeth a dealltwriaeth wych am y pwnc ac mae trefnwyr digwyddiadau, gan gynnwys Cyswllt Ffermio a Lantra Cymru, yn aml yn gofyn am ei arbenigedd. Mae wedi gweithio gyda ni yn Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf ac wedi arwain y gwaith o drefnu nifer o ddyddiau hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth am ddiogelwch fferm ar ran Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch,” dywedodd Mr. Rees.

Ganwyd Mr Rees i deulu o ffermwyr. Gadawodd yr ysgol yn ei arddegau i weithio gyda’i rieni a’i frawd hŷn ar y fferm cig eidion, defaid a moch lle mae bellach yn byw.  Erbyn ei fod yn 17 oed roedd yn aelod brwd o CFfI Rhaeadr a changen Sir Faesyfed, ac enillodd y gangen gystadleuaeth genedlaethol bwysig ym maes diogelwch fferm dair gwaith yn y saithdegau, gyda Brian yn arwain y tîm fel fforman ac fel hyfforddwr yn ddiweddarach. Daeth Brian i’r brig mewn nifer o gystadlaethau drama a siarad cyhoeddus, ac enillodd gystadleuaeth genedlaethol Diogelwch Fferm Shell & BP. Yn ôl Brian, y profiad hwn wnaeth danio ei ddiddordeb ac angerdd gydol oes mewn materion iechyd a diogelwch.  

Dechreuodd Brian ei yrfa broffesiynol ym maes diogelwch fferm yn yr wythdegau, gan lwyddo i gyfuno’r gwaith â ffermio llawn amser yn y dyddiau cynnar.  Yn y nawdegau, penderfynodd Brian a’i wraig Janet, athrawes, ei bod yn amser gwerthu’r da byw a rhentu’r glaswelltir. Roedd yn benderfyniad anodd ond yn un a arweinodd at yrfa gydol oes, llu o gymwysterau yn y diwydiant ac aelodaeth hirdymor o’r Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSHH: Institute of Occupational Safety and Health). Yn ffodus, mae eu mab Adam, a enillodd radd mewn amaethyddiaeth cyn cael sawl profiad o weithio dramor, wedi dychwelyd adref erbyn hyn ac mae’r fferm deuluol wedi ei stocio unwaith eto, a’r tro hwn yn cynnwys menter ddofednod enfawr.

Er bod Brian yn ei saithdegau cynnar bellach, nid yw’n barod i orffwys.

“Rwy’n dal i gael boddhad mawr o gyflwyno cwrs telehandler i grŵp da o weithwyr fferm ac rwy’n mwynhau fy ngwaith fel mentor diogelwch fferm gyda Cyswllt Ffermio. 

“Gallaf ddweud yn onest nad oeddwn yn disgwyl cael fy enwebu am unrhyw wobr, ond mae’n anrhydedd enfawr, ac rwy’n ddiolchgar iawn oherwydd bydd hyn yn fy helpu i dynnu sylw at yr angen i bawb sy’n gweithio yn y diwydiant sicrhau eu bod yn nodi’r risigau ac yn cymryd camau i’w lleihau.  

“Mae hyd yn oed y ffermwyr mwyaf gofalus a chall yn tueddu i ruthro a chwilio am atebion sydyn pan maen nhw o dan bwysau neu’n fyr o amser, ond mae hyfforddiant yn lleihau’r risgiau hynny, maen nhw’n mynd i’r arfer o gynllunio eu gwaith ymlaen llaw, fel eu bod nhw’n gwneud penderfyniadau gwell ac yn lleihau’r risg o ddamweiniau. 

“Gan fod yr holl hyfforddiant sy’n cael ei gynnig drwy Cyswllt Ffermio yn cael ei lanlwytho’n awtomatig i gyfrif Storfa Sgiliau ar-lein yr unigolyn, bydd tystiolaeth o sgiliau yn gysylltiedig â diogelwch fferm a thrin a thrafod peiriannau a cherbydau yn ddiogel yn ychwanegiad pwysig ar sawl CV neu gais am swydd. 

“Er nad oes gen i unrhyw fwriad i ymddeol ar hyn o bryd, gan fod ffermwyr a darparwyr hyfforddiant yn dal i ofyn am fy nghyngor neu gymorth mentora, mae yna waith pwysig i’w wneud ac rwy wrth fy modd fy mod i’n gallu parhau i gynnig cymorth ymarferol a rhannu fy mhrofiadau.” 

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 

I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau Cyswllt Ffermio, gan gynnwys hyfforddiant a mentora, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio.  


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle