Talu di-arian yn dod yn fuan i feysydd parcio Awdurdod y Parc Cenedlaethol

0
306

Cyn bo hir, bydd modurwyr sy’n ymweld â meysydd parcio sy’n cael eu rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gallu talu am eu tocynnau heb orfod cario darnau arian na chiwio wrth beiriannau talu ac arddangos.

O ddydd Llun 15 Mawrth 2021 ymlaen, bydd pobl nad ydynt yn dymuno defnyddio’r peiriannau arian parod presennol ar y safleoedd yn gallu defnyddio PayByPhone, sy’n caniatáu i bobl brynu tocynnau drwy ap, neges destun, galwad ffôn neu ar-lein drwy www.paybyphone.co.uk/pcnp.

Bydd y peiriannau arian parod presennol yn cael eu cadw yn yr holl feysydd parcio i’w defnyddio gan y rheini y mae’n well ganddynt ddefnyddio arian parod a’r rheini nad ydynt yn gallu defnyddio’r system ar-lein, a bydd tocyn 30 munud am ddim yn dal ar gael ym mhob safle.

Dywedodd James Parkin, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymwelwyr, Cymunedol a Chefn Gwlad Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae cyflwyno dulliau talu di-arian wedi bod yn her oherwydd lleoliad anghysbell rhai o’n meysydd parcio, ond rydyn ni’n credu y bydd PayByPhone yn rhoi mwy o hyblygrwydd i fodurwyr a bydd yn arbennig o ddefnyddiol wrth i ni i gyd geisio cymryd rhagofalon ychwanegol yn sgil pandemig y coronafeirws.

“Bydd y peiriannau arian yn aros yn eu lle ar gyfer y rheini sydd eu hangen ond mae PayByPhone yn cynnig amrywiaeth eang o opsiynau eraill. Fe’i defnyddir eisoes mewn nifer o leoliadau ledled y DU a chan sefydliadau gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

“Bydd angen i fodurwyr fod yn ymwybodol y bydd defnyddio PayByPhone o’n meysydd parcio yn dibynnu ar ddarpariaeth rhwydwaith, a fydd yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad a’ch darparwr. Er y byddwch efallai yn dymuno talu am docyn cyn teithio i’r maes parcio, nid yw hyn yn gwarantu y bydd lle ar gael.

“Rydyn ni’n deall nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn cael gyrru i wneud ymarfer corff ar hyn o bryd, ond mae ein meysydd parcio ar agor i’r rheini sy’n cael eu defnyddio o dan gyfyngiadau presennol Llywodraeth Cymru, megis pobl sydd â phroblemau iechyd neu symudedd penodol.”

Gall modurwyr lawrlwytho ap PayByPhone o’r App Store neu Google Play Store i gofrestru neu gofrestru ar-lein drwy www.paybyphone.co.uk i dalu am eu parcio o’u ffôn symudol/cyfrifiadur. 

Gellir talu hefyd drwy ffonio 0330 060 6203 neu anfon neges destun at 65565.

Gellir prynu tocynnau tymor ar gyfer meysydd parcio Awdurdod y Parc drwy wefan Awdurdod y Parc drwy fynd i www.arfordirpenfro.cymru/tocynnau-tymor-meysydd-parcio

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rheoli 14 o feysydd parcio sydd ar agor rhwng 9am a 7pm rhwng 15 Mawrth a 7 Tachwedd bob blwyddyn. Defnyddir yr incwm i helpu i gynnal a chadw’r meysydd parcio a’r llwybrau yn y Parc Cenedlaethol.

Dyma feysydd parcio Awdurdod y Parc Cenedlaethol y codir tâl ynddynt: Llanrhath, Saundersfoot Regency, Penalun, Maenorbŷr, Freshwater East, Bae Gorllewin Angle, Aber Bach, Nolton Haven, Niwgwl (Cerrig Mân), Solfach, Oriel y Parc (Tyddewi), Traeth Mawr Trefdraeth a Thraeth Poppit.

I gael rhagor o wybodaeth am feysydd parcio a chostau, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/parcio.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle