Bydd hyd at £2,500 o arian argyfwng gan Lywodraeth Cymru ar gael i fusnesau yng Nghymru gafodd eu taro gan y llifogydd diweddar.
Mae hyn yn dilyn y gofid a’r difrod a achoswyd gan Storm Bella ym mis Rhagfyr llynedd a Storm Christoph ym mis Ionawr.
Busnes Cymru fydd yn gyfrifol am drefnu’r arian a bydd yn helpu busnesau â’u costau trwsio ac adfer, a hefyd â chost rhentu lle newydd a chadw staff.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates: “Fel y deallwn, dioddefodd rhyw 45 o fusnesau yn sgil y llifogydd diweddar yng Nghymru. Felly, ar ben popeth arall y maen nhw’n ei wynebu, mae’r busnesau hyn yn gorfod dygymod â difrod i’w heiddo, eu stoc a’u hoffer ac yn aml yn gorfod delio hefyd â phroses yswiriant gymhleth.
“Mae ein Cynllun Grant Cymorth Llifogydd i Fusnesau yn rhoi cymorth ariannol i fusnesau sydd wedi teimlo effeithiau llifogydd y stormydd enbyd diweddar.
“Rydym am helpu busnesau sydd wedi dioddef i godi yn ôl ar eu traed cyn gynted â phosibl a dyna pam rydym wedi ymateb yn gyflym gyda thaliad o hyd at £2,500 i bob busnes. Mae hyn yn efelychu’r hyn wnaethom ni adeg y llifogydd mawr llynedd ac y mae’n ychwanegol at y pecyn coronafeirws ehangach.”
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd Lesley Griffiths: “Fel y gwelon ni pwy ddiwrnod, mae llifogydd yn gallu achosi poen enbyd i deuluoedd a busnesau ledled Cymru. Rwy’n falch iawn felly o weld cyhoeddi’r grant Cymorth Llifogydd i Fusnesau. Yn dilyn llifogydd llynedd, gwnaethon ni neilltuo rhagor na £5m i awdurdodau lleol allu trwsio amddiffynfeydd rhag llifogydd. Bydd y grant hwn yn rhoi’r help sydd ei angen ar fusnesau i’w helpu i godi yn ôl ar eu traed.”
Caiff y gronfa ei gweinyddu gan Busnes Cymru. I wneud cais, ewch i: https://businesswales.gov.wales/cy/cronfa-cymorth-llifogydd-i-fusnesau
Bydd yn agored i fusnesau y gallai unrhyw stormydd eraill hyd at ddiwedd mis Mawrth effeithio arnyn nhw, os bydd digon o arian. Bydd yn rhaid bodloni’r amodau.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle