Gyda chyfyngiadau COVID yn dal i fod mewn lle, gall fod yn her dod o hyd i ffyrdd newydd o gadw’n brysur.
Pan fyddwch chi i gyd wedi cael digon o gyfarfodydd Zoom, wedi gwylio pob cyfres deledu, gweld eich holl dirnodau lleol a chael digon o sesiynau cadw’n heini ar-lein, y cam amlwg nesaf yw gwneud crefft.
Gyda buddion iechyd meddwl hobïau creadigol yn amlwg, mae elusen swyddogol y GIG yng ngorllewin Cymru yn cynnig gweithgaredd teulu-gyfeillgar y gall pawb gymryd rhan ynddo, wrth helpu i wella profiad staff a chleifion y tu hwnt i’r hyn y mae’r GIG yn ei ddarparu.
Yr wythnos hon, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn lansio cystadleuaeth boned Pasg ar-lein, gyda gwobrau ar gyfer gwahanol grwpiau oedran a dim cyfyngiadau ar bwy all gymryd rhan. Nid oes unrhyw un yn rhy ifanc nac yn rhy hen i gymryd rhan, cael hwyl, a gwneud eu rhan dros eu helusen GIG leol.
Dywedodd y Rheolwr Codi Arian, Tara Nickerson: “Byddem wrth ein bodd pe bai cymaint o bobl â phosib yn cymryd rhan yn ein rhith-gystadleuaeth boned Pasg. Rydyn ni wedi’i gwneud hi mor hawdd â phosib i bobl gymryd rhan, gyda detholiad o dempledi papur het a boned y gallant eu paentio, eu lliwio neu lynu. Nid oes cyfyngiad ar ba mor greadigol y gall y bonedau fod – byddai’n wych pe gallai pobl ailddefnyddio eitemau sydd ganddyn nhw eisoes gartref. Byddwn yn rhannu ein hoff luniau ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ac rydym yn mawr obeithio y bydd y gystadleuaeth yn dod â hwyl mawr ei hangen ar ôl 12 mis anodd i ni i gyd. ”
Gobeithiwn y bydd ysgolion, busnesau, grwpiau a chlybiau o bob oed yn cymryd rhan. Mae gwobrau ar gael mewn tri categori oedran – 0-5 oed, 6-12 a 13 a hŷn. Croesewir rhodd o £2 ar gyfer pob cais gyda’r holl elw yn cefnogi gwaith Elusennau Iechyd Hywel Dda ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Am fanylion llawn ewch i: justgiving.com/campaign/HywelDdaEasterBonnet, ffoniwch 01267 239815 neu e-bostiwch codiarian.HywelDda@wales.nhs.uk am fwy o wybodaeth.
Llun yn dangos Mabli 5 oed gyda’i chofnod
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle