Dirprwyaeth fasnach rithwir Gymreig yn ceisio cysylltiadau agosach â Gwlad y Basg

0
340

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi deg busnes o bob rhan o Gymru i feithrin cysylltiadau masnach newydd a chryfhau’r cysylltiadau presennol â Gwlad y Basg drwy genhadaeth fasnach rithwir.

Mae’r busnesau, o sectorau gwyddorau bywyd a gofal iechyd Cymru, yn mynd ar y daith fasnach rithwir, sy’n digwydd rhwng 1 a 12 Mawrth, i rwydweithio, cyfnewid gwybodaeth a datblygu cysylltiadau masnachu a chydweithredol gydag amrywiaeth o bartneriaid a chwsmeriaid posibl yng Ngwlad y Basg.

Nodir Gwlad y Basg fel rhanbarth partner â blaenoriaeth yn Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, a ffurfiolwyd y berthynas hon ym mis Gorffennaf 2018 gyda llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.

Mae’r daith fasnach rithwir yn cyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn y Cynllun Gweithredu Allforio a gyhoeddwyd yn ddiweddar i gefnogi datblygiad allforion o Gymru, gan gynnwys galluogi cwmnïau mewn sectorau allforio allweddol i archwilio cyfleoedd mewn marchnadoedd rhyngwladol.

Mae cyfranogwyr yn cynnwys cwmnïau sy’n cael eu cefnogi drwy fenter Clystyru Allforio beilot newydd ar gyfer gwyddorau bywyd gyda’r nod o ddod â chwmnïau at ei gilydd i rannu arfer gorau a hyrwyddo allforion yn y sector hwn. Bydd y daith yn adeiladu ar y cysylltiadau agos sydd eisoes â Masnach a Buddsoddi Gwlad y Basg a chlwstwr Gofal Iechyd Gwlad y Basg i archwilio masnach bosibl a chyfleoedd i gydweithio mewn technoleg ac ymchwil.

Hyd yma, cafwyd sawl enghraifft nodedig o gydweithio llwyddiannus rhwng busnesau yng Nghymru a Gwlad y Basg, gan gynnwys Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles (CAF) a fuddsoddodd yng Nghymru ac sydd bellach yn hyfforddi gweithgynhyrchu ar gyfer Metro De Cymru.

Bydd y cwmnïau’n cael eu cysylltu a’u cyflwyno i ddarpar bartneriaid busnes rhithwir. Bydd hyn yn helpu cwmnïau o Gymru a Gwlad y Basg i ymgysylltu a datblygu perthynas, gyda’r nod o gyfarfod wyneb yn wyneb pan fo hynny’n bosibl yn y pen draw.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle gwych i ni ddathlu’r cwmnïau gwych sydd gennym yma yng Nghymru ac arddangos eu nwyddau a’u gwasanaethau i rannau eraill o’r byd.

“Rwy’n falch iawn ein bod yn gweithio ar y cyd i gyflwyno’r digwyddiad hwn gyda’n cydweithwyr yng Ngwlad y Basg, sydd â sylfaen weithgynhyrchu gref ac sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth ac arloesi, gan ei gwneud yn bartner allweddol i Gymru. Rydym yn gwerthfawrogi’r cysylltiadau cryf yr ydym wedi’u datblygu dros y blynyddoedd, yn enwedig ar gyfer masnach a buddsoddi, a gobethio y bydd hyn yn parhau am amser maith.

“Rwy’n falch o weld bod cymaint o fusnesau yng Nghymru sy’n parhau i gydnabod y cyfleoedd sydd y tu hwnt i’n ffin. Bydd y daith fasnach hon yn rhoi cyfle unigryw i ddirprwyaeth Cymru arddangos eu cynnyrch a’u gwasanaethau arloesol, ochr yn ochr â’n harbenigedd academaidd a’n diwylliant ymchwil bywiog sydd wedi gwneud gwyddorau bywyd yn faes twf mor allweddol yng Nghymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle