Neges Dydd Gŵyl Dewi gan Brif Weinidog Cymru

0
447

Yn ei neges dywedodd Mark Drakeford:

Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi gyd.

Dros y deuddeg mis diwethaf, mae Coronafeirws wedi newid ein bywydau ni i gyd.

Mae teuluoedd ledled Cymru wedi colli anwyliaid ac mae llawer wedi mynd yn dost.

Mae plant a phobl ifanc wedi gorfod cadw draw o ysgolion, colegau a phrifysgolion. Dy’n nhw ddim wedi gallu treulio amser gyda ffrindiau.

Mae busnesau a gweithwyr wedi gweithio’n galed i addasu i fyd sy’n newid yn gyflym.

Dywedodd Dewi Sant wrthym i wneud y pethau bychain.

Rydyn ni i gyd, yn ein ffordd ein hunain, wedi aberthu pethau bychain i ddiogelu ein gilydd.

Mae pobl wedi cadw draw oddi wrth deulu a ffrindiau.

Mae rhai wedi bod yn siopa i bobl sy’n gwarchod eu hunain.

Rydyn ni wedi gorfod canslo digwyddiadau lleol a chenedlaethol.

Mae pobl wedi aberthu pethau mawr hefyd.

Maen nhw wedi colli priodasau a phartïon pen-blwydd.

Mae teuluoedd sy’n galaru wedi methu mynd i angladdau i ffarwelio ag anwyliaid.

Yng Nghymru, mae miloedd o weithwyr allweddol a gwirfoddolwyr wedi gwneud ymdrech arbennig i’n helpu drwy’r pandemig.

Rydym yn diolch o galon iddyn nhw am barhau i weithio dan amodau anodd.

Mae llawer o’r staff hynny wedi bod yn rhan o’n rhaglen frechu hefyd.

Mae un o bob tri o oedolion Cymru eisoes wedi cael y brechlyn.

Gall y brechlyn ein helpu i ddod drwy’r pandemig, gan roi gobaith ar gyfer y dyfodol.

Rydyn hefyd wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd eleni. Ond ni ddim wedi stopio bod yn rhan o Ewrop. Rydyn ni’n falch o fod yn wlad sy’n edrych tuag allan.

Rydyn ni’n dal ati i gryfhau ein perthynas â ffrindiau a phartneriaid yn Ewrop. Mae teithiau masnach rhithiol wedi parhau drwy’r pandemig. Mae ‘Blwyddyn Cymru yn yr Almaen’ yn enghraifft wych o hynny.

Allwn ni ddim dathlu ein diwrnod cenedlaethol gyda’n gilydd eleni. Er hynny, rydyn ni mor awyddus ag erioed i ymgysylltu â gweddill y byd.

Dywedodd Dewi Sant wrthyn ni am fod yn llawen a chadw’r ffydd. 

Geiriau pwysig yn y cyfnod anodd hwn.

Bydd pethau’n gwella. 

Gyda’n gilydd, gallwn ddiogelu Cymru a chreu dyfodol tecach, gwell.

Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi gyd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle