Mae tîm heddlu sy’n ymchwilio i adroddiadau am gamfanteisio a meithrin perthnasau amhriodol ar-lein wedi gweld cynnydd o 40% yn nifer yr adroddiadau ers dechrau’r pandemig COVID-19.
Mae Tîm Ymchwilio Ar-lein Heddlu Dyfed-Powys wedi gweld mwy o gynnydd yn nifer y cyfeiriadau dros y 12 mis diwethaf nag yn y 4 blynedd ers ei sefydlu.
 phryderon y bydd ffigurau’n parhau i gynyddu wrth i ehangder y cyfyngiadau symud ac ynysu cymdeithasol ddod yn glir yn ystod y misoedd i ddod, anogir rhieni a gofalwyr i fod yn ymwybodol o bwy mae eu plant yn siarad â nhw ar-lein – yn ogystal â gofyn yn uniongyrchol i bobl ifainc beidio â chredu bod “ffrindiau” ar-lein yn dweud y gwir am bwy ydynt.
Fel rhan o INTACT – ymgyrch addysgu, ymgysylltu a gorfodi’r heddlu ar gyfer mynd i’r afael ag amrediad o droseddau difrifol a threfnedig – y mis hwn, codir ymwybyddiaeth o gamfanteisio ar blant, yn enwedig ar-lein.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Shaun Davies, “Mae’r cynnydd yn nifer yr achosion sy’n ein cyrraedd ers i’r cyfyngiadau symud a’r cyfyngiadau cymdeithasol ddod i rym yn arswydus. Mae plant yn treulio mwy a mwy o amser ar-lein, ac yn sgwrsio gyda phobl nad ydynt yn eu hadnabod.
“Mae pobl ddrwg ar-lein yn cymryd mantais o blant sydd wedi’u hynysu, sy’n gweld eisiau eu ffrindiau ac sydd angen cwmni, ac yn eu poeni’n fwy nag erioed. Ein hofn yw y bydd mwy a mwy o blant yn dioddef heb unrhyw un i droi ato yn absenoldeb oedolion y gallant ymddiried ynddynt – athrawon, gweithwyr clwb ieuenctid, hyfforddwyr chwaraeon ac ati.
“Yr ydym eisiau sicrhau pobl ein bod ni dal yma i dderbyn adroddiadau ac ymchwilio iddynt. Mae cymorth arbenigol ar gael gennym, ac ni fyddwn byth yn barnu dioddefydd. Peidiwch â theimlo gormod o gywilydd i ddod ymlaen – yr ydym yma i helpu, a pho gyntaf y codir y broblem, cyntaf y gall ein hymholiadau gychwyn.”
Esboniodd y Ditectif Ringyll Davies y bydd troseddwyr ar-lein yn cychwyn sgyrsiau gyda dwsinau o blant yr un pryd, gan ddefnyddio’r un llinell ragarweiniol dro ar ôl tro. Maen nhw’n newid eu henw proffil, eu gwybodaeth a’u llun yn seiliedig ar y plentyn maen nhw’n ceisio targedu, ac yn defnyddio nifer o wefannau ac apiau er mwyn ceisio dod o hyd i ddioddefwyr.
“Yr hyn yr ydym yn gweld ar-lein yw ymosodwyr rhywiol yn manteisio ar bobl ifainc a’u diniweidrwydd,” meddai. “Maen nhw’n ceisio dod yn gyfaill iddynt, a byddant yn gwneud i’r unigolyn hwnnw deimlo’n arbennig, ond mewn gwirionedd, maent yn defnyddio ffyrdd o gychwyn sgwrs i’w denu hyd nes y byddant yn cael ymateb maent yn credu y gallant weithio arno. Nid oes pwysau amser arnynt, a gallant gynnal sawl sgwrs mewn un noson.
“Yr ydym yn annog pobl i beidio â chymryd yn ganiataol bod yr unigolyn y maent yn siarad ag ef yn dweud y gwir am bwy ydyw yn ei broffil – perthynas ffug ydyw.”
Mae swyddogion a staff yn y Tîm Ymchwilio Ar-lein wedi dyfeisio dull o gasglu a darllen drwy holl sgyrsiau ar-lein rhywun sydd yn cael ei ymchwilio am droseddau meithrin perthynas amhriodol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys negeseuon testun ac amlgyfrwng, nodiadau, hanes ar y we, a chofnodion galwadau a sgyrsiau ar apiau, gan gynnwys Facebook Messenger, WhatsApp, iMessage, Tinder, KIK, MeetMe, Omegle a Whisper.
Dywedodd Nia Evans, dadansoddydd gyda’r Uned Ymchwilio Digidol, “Yr ydym yn adolygu cofnodion sgwrs am dystiolaeth o droseddu pellach, meddu ar ddelweddau a’u rhannu, ac annog plentyn i gyflawni gweithred rywiol, ar gyfer y drosedd o gyfathrebu rhywiol gyda phlentyn, ac er mwyn amddiffyn a diogelu plant.
“Pan fyddwn yn ymchwilio i ddrwgdybyn, mae gan y ddyfais gyffredin 60,000 llinell o ddata mewn 500 i 600 o sgyrsiau gwahanol, a byddwn yn dadansoddi’r rhain i gyd.”
Mae tystiolaeth yn dangos y bydd y troseddwr yn aml yn symud ymlaen i’r drosedd o gribddeiliaeth rywiol unwaith y bydd wedi ennyn digon o ffydd i dderbyn ffotograffau o’r dioddefydd – gan fygwth y bydd y delweddau neu’r fideos hyn yn cael eu rhannu â’i deulu a’i ffrindiau os nad yw’n parhau i anfon mwy.
Gall effaith emosiynol hyn fod yn drychinebus ar gyfer pobl ifainc, ac mae ymchwilwyr yn canfod bod dioddefwyr yn credu mai eu hunig ddewis yw cydymffurfio am eu bod yn ofni beth fydd yn digwydd fel arall.
“Unwaith y bydd y ffotograff hwnnw wedi’i anfon, y mae allan o’ch rheolaeth yn llwyr, ac fe allai gael ei rannu unrhyw le gydag unrhyw un,” meddai’r Ditectif Ringyll Davies. “Un o’r pethau mwyaf torcalonnus am hyn yw y bydd y dioddefydd yn cael ei flino gan y wybodaeth y gall ei lun dal fod ar gael rhywle ar-lein wrth iddo dyfu’n oedolyn.
“Peidiwch ag anfon delweddau neu fideos i rywun yr ydych wedi cwrdd ag ef ar-lein, na chael eich gorfodi i gyflawni gweithredoedd rhywiol – ni waeth faint yr ydych yn credu bod eich perthynas wedi datblygu. Efallai y byddwch yn cael eich recordio heb yn wybod ichi, ac ni fydd gennych unrhyw ffordd o gael y darn hwnnw o ffilm yn ôl, na gwybod os yw’n bodoli hyd yn oed.
“Os gofynnir ichi anfon unrhyw ddelweddau, dewch â’r sgwrs i ben a dywedwch wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo. Peidiwch â chael eich temtio i ddileu’r hanes sgwrs oherwydd fe allai fod yn ddefnyddiol mewn ymchwiliad yn y dyfodol. Os ydych chi wedi anfon delwedd, nid yw’n rhy hwyr i adrodd am y digwyddiad – unwaith y byddwn yn gwybod beth sydd wedi digwydd, medrwn weithredu a gweithio i atal plant eraill rhag dod yn ddioddefwyr.”
Anogir rhieni i gychwyn sgyrsiau agored gyda’u plant ynghylch aros yn ddiogel ar-lein, bod yn ymwybodol o bwy maent yn siarad â nhw, ac esbonio peryglon derbyn ceisiadau gan bobl nad ydynt yn eu hadnabod.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio gyda’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, a fydd yn cysylltu â phobl ifainc y mae ymchwilwyr wedi’u nodi fel rhai sydd o bosibl wedi bod mewn cysylltiad â drwgdybyn i gynnig arweiniad a chymorth.
Medrwch adrodd am ddigwyddiad wrth Heddlu Dyfed-Powys drwy un o’r dulliau canlynol:
Ar-lein: bit.ly/DPP101Online
E-bost: 101@dyfed-powys.pnn.police.uk
Ffôn: 101
Mewn argyfwng, galwch 999 bob amser.
Mae llwybrau cymorth uniongyrchol eraill yn cynnwys:
Gwasanaeth Dioddefwyr a Thystion Goleudy: e-bostiwch goleudy@dyfed-powys.pnn.police.uk neu galwch 0300 1232996
Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant: e-bostiwch help@nspcc.org.uk neu galwch 0808 800 5000 o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8y.b. – 10y.h., neu o 9y.b. – 6y.h. ar benwythnosau.
Childline: sgwrsiwch ar-lein ar www.childline.org.uk o 9y.b. – 10.30y.h., neu galwch 0800 1111 o 9y.b. – 3.30y.b.
Am wybodaeth ynghylch siarad â phlant am ddiogelwch ar-lein:
Parents Protect: https://www.parentsprotect.co.uk/
Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant: https://www.nspcc.org.uk/keeping-children-safe/online-safety/talking-child-online-safety/
Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y Deyrnas Unedig: https://www.saferinternet.org.uk/
Childnet Rhyngwladol: https://www.childnet.com/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle