Her 100 milltir cerddwr Aberystwyth mewn pryd ar gyfer pen-blwydd yn 64 oed

0
312
Annette Smith
Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi diolch i'r codwr arian Annette Smith o Talybont, Aberystwyth sydd wedi codi £710 hyd yn hyn ar ôl cerdded dros 100 milltir mewn 21 diwrnod, o amgylch ei hardal leol i godi arian ar gyfer Uned Dydd Cemotherapi Bronglais. 

Mae Annette fel arfer yn cerdded ar y mwyaf o 60 milltir y mis, felly roedd y ddynes 63 oed wedi gwthio ei therfynau mewn gwirionedd. Dechreuodd ar 10fed Chwefror a gorffen milltir 100 ddydd Mawrth 2 Mawrth, ddeg diwrnod cyn ei phen-blwydd yn 64 oed ar 12fed Mawrth, pan fydd hi'n dathlu ei chyflawniad gyda chacen haeddiannol!

Mae Annette wedi cerdded bob dydd, gan geisio cerdded yn y bore i roi dechrau da i’r diwrnod.

Meddai “Rwyf am roi rhywbeth yn ôl i’n gwasanaethau lleol yn y GIG. Rwy’n teimlo’n hynod lwcus nad yw Coronafeirws wedi effeithio gormod ar fy nheulu a minnau ac rwyf am wneud fy rhan i helpu. Rwy'n teimlo bod angen i mi wneud rhywbeth i ddweud diolch.
Rwyf hefyd am osod her i mi fy hun a gwthio ffiniau. Rhywbeth i mi deimlo'n falch ohono.

Mae gen i ffrindiau sydd wedi defnyddio neu sy'n defnyddio'r uned cemotherapi ac rwy'n poeni y bydd pwysau ar wasanaethau yn cynyddu unwaith y bydd bywyd yn dechrau mynd yn ôl i normal. "

Dywedodd Annette fod yr her yn brawf corfforol a meddyliol, ond ychwanegodd ei bod yn hyfryd archwilio ei hardal leol a mwynhau’r amgylchoedd.

Ychwanegodd, "Rwy'n teimlo'n falch iawn bod fy her bersonol wedi codi swm mor dda i gyfrannu at waith gwych yr Uned Dydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais. Bydd eu gwaith yn parhau y tu hwnt i'r argyfwng presennol hwn. Diolch i'm holl gefnogwyr a byddai gwych meddwl y gallai fy ymdrechion godi mwy fyth! ”

Elusennau Iechyd Hywel Dda yw elusen swyddogol y GIG ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Dywedodd y Rheolwr Codi Arian, Tara Nickerson, “Rydym bob amser yn ddiolchgar pan fydd pobl yn cymryd yr amser i gefnogi ein gwaith, gan ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau sydd y tu hwnt i'r hyn y mae'r GIG yn ei ddarparu. Mae'n wirioneddol ysbrydoledig pan fydd pobl sydd wedi cael gofal y GIG yn penderfynu rhoi yn ôl, fel y mae Annette yn gwneud. Bydd yr arian y mae'n ei godi o fudd uniongyrchol i gleifion a staff y GIG.”

Mae yna amser o hyd i gefnogi ymdrechion anhygoel Annette yn http://www.justgiving.com/anothersmithy

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle