Plaid Cymru yn datgelu cynlluniau ar gyfer asiantaeth datblygu economaidd newydd uchelgeisiol, Ffyniant Cymru

0
2355
Plaid Cymru's Helen Mary Jones

“Nid yw tlodi’n anochel – mae’n ddiffyg penderfyniad gwleidyddol” – Helen Mary Jones AS

Heddiw (dydd Sadwrn 6 Mawrth), mae Plaid Cymru wedi amlinellu ei chynlluniau ar gyfer asiantaeth annibynnol newydd – Ffyniant Cymru – a fydd yn gyfrifol am ddatblygu economi Cymru.  

Wrth siarad cyn Cynhadledd Wanwyn y blaid, dywedodd Gweinidog Cysgodol Economi Helen Mary Jones AS y byddai gan lywodraeth Plaid Cymru bolisi economaidd clir i “greu a rhannu cyfoeth” ac i “adeiladu ein ffyniant cenedlaethol” i alluogi’r “gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf yr ydym i gyd yn eu haeddu.”

Bydd Ffyniant Cymru yn cael ei nodweddu gan:

·       Dull gofodol: Canolbwyntio sylw lle mae ei angen fwyaf

·       Ailgydbwyso: Mynd i’r afael â phatrymau hanesyddol o wahaniaethu sydd wedi arwain at anghyfiawnder cronig ac anghydraddoldeb

·       Twf: Meithrin busnesau lleol, galluogi allforio a gwella cynhyrchiant

·       Ymchwil a Datblygu: Galluogi busnesau presennol i arloesi, datgarboneiddio a ffynnu.  

Dywed Ms Jones y bydd y ffocws ar economi sylfaenol yn sicrhau caffael lleol ar raddfa enfawr, “gwario cymaint â phosibl o bunt gyhoeddus Cymru yma yng Nghymru.”

Bydd Ffyniant Cymru yn cael ei arwain gan Fwrdd fydd yn cynnwys nid yn unig arloeswyr o fyd busnes, ond hefyd arbenigwyr mewn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a datgarboneiddio.

Dywedodd Helen Mary Jones AS, Gweinidog Cysgodol dros yr Economi a Threchu Tlodi Plaid Cymru:

“Nid oes dim sy’n anochel ynglŷâ‘r tlodi y mae cynifer o’n cyd-ddinasyddion yn ei wynebu. Mae’r tlodi hwn yn ganlyniad uniongyrchol i benderfyniad gwleidyddol, a diffyg penderfyniad gwleidyddol. 

“Bydd Ffyniant Cymru yn asiantaeth datblygu economaidd gyda gwahaniaeth, gan ddefnyddio arbenigedd o’r byd busnes yn ogystal ag arbenigwyr wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a datgarboneiddio. Gyda’r dasg o ddatblygu ein heconomi yn y fath fodd fel bod cyfleoedd yn cael eu creu’n deg ar draws ein cenedl, bydd pwyslais ar fynd i’r afael â phatrymau hanesyddol o wahaniaethu sydd wedi arwain at anghyfiawnder cronig ac anghydraddoldeb yn y ffordd y mae ein heconomi wedi gweithredu.

“Wrth nesu at yr etholiad ym mis Mai, bydd Llafur wedi cael 21 mlynedd lle maen nhw wedi methu â chyflawni’r trawsnewidiad mor daer sydd ei angen ar Gymru. Mae traean o’n plant mewn tlodi, mae creithiau Thatcheriaeth yn dal yn amlwg ar ein Cymoedd ac mae ein cymunedau gwledig dal yn fregus. A chyda phlaid Dorïaidd Gymreig yn hapus i fod yn was bach i’w meistri yn San Steffan, dim ond llywodraeth Plaid Cymru fydd â’r weledigaeth, yr uchelgais a’r angerdd i adeiladu’r genedl deg, werdd a llewyrchus – cenedl gyfartal – yr ydym i gyd am fyw ynddi.

“Rydym yn glir fel Plaid am ddibenion ein polisi economaidd. Rhaid inni wneud penderfyniadau gwahanol, a rhaid inni wneud hynny nawr.”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle