Cydnabod gwaith gwerthfawr gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd yn ystod COVID-19

0
498

Mae gwaith caled, ymroddiad a phroffesiynoldeb clinigwyr a rhai nad ydynt yn glinigwyr wedi bod yn amhrisiadwy yn y frwydr yn erbyn COVID-19 yn ystod y 12 mis diwethaf.

Gydag Wythnos Gwyddonr Gofal Iechyd eleni yn dirwyn i ben, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn bachu ar y cyfle hwn i gydnabod gwaith gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd.

Mae Wythnos Gwyddor Gofal Iechyd yn rhaglen flynyddol sy’n cydnabod gwaith eithriadol gwyddonwyr gofal iechyd ac yn tynnu sylw at eu heffaith ar fywydau cleifion. Nod y digwyddiad hefyd yw codi ymwybyddiaeth o’r nifer o yrfaoedd mewn gwyddoniaeth gofal iechyd.

Dywed yr Athro Chris Hopkins, Pennaeth Peirianneg Glinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwyf wedi fy synnu gan yr enghreifftiau anhygoel o broffesiynoldeb, gwaith tîm, hyblygrwydd a charedigrwydd a ddangoswyd gan yr holl wyddonwyr gofal iechyd yn ystod y pandemig.

“Dylai pob un ohonom gydnabod y cyfraniad enfawr y mae gwyddoniaeth gofal iechyd wedi’i wneud yn yr argyfwng byd-eang hwn. Rhwng tonnau 1 a 2 COVID-19, gweithiodd gwyddonwyr gofal iechyd yn galed iawn i ddarparu gwasanaethau di-baid i ddarparu gwasanaethau, yn aml heb gyfle i adnewyddu, ail-grwpio ac ymlacio. ”

Ychwanegodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r teitl ‘Gwyddor Gofal Iechyd’ yn cwmpasu ystod o wahanol broffesiynau, sydd, er nad ydyn nhw bob amser yn weladwy, yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi darparu gofal iechyd i’n poblogaeth. Mae hyn wedi bod hyd yn oed yn fwy amlwg dros y 12 mis diwethaf wrth gefnogi’r ymateb i’r pandemig COVID-19.

“Mae yna ormod i’w grybwyll ond mae enghreifftiau lleol yn cynnwys rôl staff ein labordy wrth wneud diagnosis o’r rheini â COVID-19 a’n timau peirianneg glinigol wrth gefnogi gweithredu a phrofi offer newydd yn gyflym e.e. yn ein hysbytai maes.

“Yn genedlaethol mae gennym y gwyddonwyr sy’n ymwneud â datblygu’r brechlynnau ar gyfer COVID-19 a’r rhai sy’n ymwneud â datblygu’r dilyniant genomig i nodi amrywiadau newydd o’r feirws.

“Wythnos Gwyddor Gofal Iechyd yw’r amser delfrydol i godi proffil y proffesiynau llai adnabyddus hyn, rhannu’r hyn maen nhw’n ei wneud gyda’r cyhoedd a diolch iddyn nhw am eu cyfraniad unigryw i’n system iechyd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle