Mae cerdyn adnabod newydd yn cael ei lansio yng Nghastell-nedd Port Talbot i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cydnabod am eu rôl wrth ofalu am aelodau o’r teulu.
Diben y cerdyn adnabod yw sicrhau bod gweithwyr proffesiynol a busnesau’n adnabod pobl ifanc a chanddynt gyfrifoldebau gofalu ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt.
Caiff y cerdyn adnabod ei lansio ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc (dydd Mawrth, 16 Mawrth) mewn digwyddiad blynyddol i gynyddu ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc. Mae’r cerdyn, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn cynnwys llun o’r person ifanc, ei fanylion personol a logo swyddogol y ‘Gofalwyr Ifanc’.
Meddai’r Cynghorydd Alan Lockyer, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Wasanaethau Cymdeithasol i Blant, “Bydd y cerdyn adnabod yn ddefnyddiol i bobl ifanc pan fyddant mewn sefyllfa lle bydd angen iddynt esbonio bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu. Gallai hyn fod yn yr ysgol i helpu i esbonio i athro neu berchennog siop leol pan fyddant allan yn siopa.
“Mae gennym lawer o ofalwyr ifanc sy’n falch iawn o ofalu am aelod o’u teulu, ond mae’n rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt a’r gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.
“Os ydych chi’n adnabod person ifanc yn y sefyllfa hon nad yw’n sylweddoli ei fod yn ofalwr ifanc, cysylltwch â’n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Unigol.”
Nodir gofalwr ifanc fel rhywun sy’n gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu na all ymdopi ar ei ben ei hun am fod ganddo salwch neu anabledd. Yng Nghymru’n unig, amcangyfrifir bod gan 30,000 o bobl ifanc dan 25 oed gyfrifoldebau gofalu.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig cefnogaeth benodol i ofalwyr ifanc drwy’r gwasanaeth Ieuenctid. Maent yn helpu gofalwyr drwy eu cynnwys mewn gweithgareddau er mwyn rhoi seibiant iddynt, siarad â gweithwyr proffesiynol ar eu rhan, darparu gwybodaeth a chyngor ar y gefnogaeth sydd ar gael iddynt a chynnig cefnogaeth gwaith ieuenctid un i un.
Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod yn ofalwr ifanc neu’n adnabod rhywun a allai elwa o gefnogaeth bellach ffonio’n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Unigol (SPOC) ar 01639 686802.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle