Addewid newydd i gefnogi mentrau gwyddorau bywyd arloesol yng Nghymru ac Iwerddon

0
541

Mae arbenigwyr gwyddorau bywyd o Brifysgol Abertawe yn edrych ymlaen at chwarae rôl allweddol mewn cynlluniau i feithrin cysylltiadau agosach byth rhwng Cymru ac Iwerddon. 

Mae’r Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch (CALIN), a arweinir gan y Brifysgol, yn weithrediad INTERREG rhwng Cymru ac Iwerddon a sefydlwyd i gefnogi gwaith ymchwil a datblygu ym maes busnesau gwyddorau bywyd bach a chanolig yng Ngorllewin Cymru a Dwyrain a De Iwerddon. 

Tynnwyd sylw ato mewn datganiad cyffredin ffurfiol a luniwyd i gynyddu cydweithrediad rhwng llywodraethau Cymru ac Iwerddon a’u partneriaid yn y sectorau busnes, chwaraeon a chymunedau, ynghyd â’r celfyddydau. 

Cyhoeddwyd y ddogfen, a lofnodwyd ar y cyd gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a Gweinidog Iwerddon dros Faterion Tramor, Simon Coveney, ar ddechrau’r mis hwn. Ynddi, ceir addewid i hyrwyddo cydweithrediad diwydiannol priodol yn niwydiannau gwyddorau bywyd Cymru ac Iwerddon drwy CALIN. 

Ers i CALIN gael ei sefydlu yn 2016, mae Abertawe a’r pum prifysgol arall sy’n bartneriaid ynddo – Coleg Prifysgol Dulyn, Sefydliad Tyndall, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon (Galway), Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd – wedi helpu mwy na 150 o gwmnïau ac wedi sefydlu 40 o brosiectau cydweithredol byrdymor a thymor canolig. 

Mae’r fenter drawsffiniol yn clustnodi prifysgol o Gymru a phrifysgol o Iwerddon i gydweithio â busnes bach neu ganolig i gyflwyno datblygiadau ym maes gwyddorau bywyd. 

O ganlyniad i gymorth CALIN, mae busnesau wedi buddsoddi mwy na phum miliwn ewro mewn mentrau ymchwil a datblygu, gan greu 20 o swyddi newydd. 

Meddai Cyfarwyddwr Strategol CALIN, yr Athro Steve Conlan, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Ymysg ei nodau cyffrous niferus, mae’r cynllun gweithredu hwn yn ceisio hyrwyddo cydweithrediad diwydiannol yn niwydiannau gwyddorau bywyd Cymru ac Iwerddon. 

“Rydym yn falch bod CALIN wedi cael ei gydnabod fel cyfrwng i wneud hynny. Rydym wedi profi y gallwn sefydlu a chefnogi mentrau a datblygiadau newydd. 

“Bydd sêl bendith y ddwy lywodraeth yn ein helpu i barhau i wneud hyn ac i fynd o nerth i nerth yn y maes hwn.”  

A ydych yn gyfrifol am fusnes bach neu ganolig yn y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru neu Iwerddon? Os hoffech fod yn un o’r nifer cynyddol o fusnesau sy’n elwa o arbenigedd CALIN, cysylltwch â ni. 

Mwy o wybodaeth am brosiect CALIN


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle