Plaid Cymru yn mynnu diwedd ar wahaniaeth rhwng tâl gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

0
334
Rhun ap Iorwerth AM, Leader of Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddiwygio cyflogau, telerau ac amodau er mwyn sicrhau triniaeth gyfartal i staff iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Mewn dadl a drefnwyd ar gyfer y prynhawn yma (dydd Mercher 17 Mawrth) yn y Senedd, bydd Plaid Cymru yn galw am i wahaniaethau ddod i ben, ac i weithwyr gofal gael isafswm gwarantedig o £10 yr awr.

 

O dan y trefniadau presennol, telir o leiaf y cyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr iechyd yn y GIG. Nid yw hynny’n wir yn y sector gofal.

 

Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn creu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol, gyda gofal cymdeithasol am ddim ar y pwynt angen, gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu rhoi ar yr un graddfeydd cyflog.

 

Yn nadl y Senedd heddiw, bydd Plaid Cymru yn galw ar “Lywodraeth nesaf Cymru” i gyflwyno isafswm gwarantedig o £10 yr awr i bob gweithiwr gofal.

 

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyflwyno gwelliant sy’n dileu’r gofyniad hwn ac yn ei ddisodli gan sôn am fforwm newydd – y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol – y mae’n dweud ei fod yn “edrych ar sut i wella telerau ac amodau yn y sector.”

 

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS,

 

“Mae’r cyhoedd wedi cymeradwyo ein gofalwyr, nawr mae’n bryd i’r llywodraeth gamu i fyny a rhoi gwerth i’r clapio.

 

“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i’n gofalwyr – mewn llywodraeth, byddwn yn creu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol gwirioneddol ddi-dor, a fydd yn rhoi’r parch y maent yn ei haeddu i weithwyr gofal, gan eu rhoi ar yr un telerau ac amodau a graddfeydd cyflog â gweithwyr iechyd.

 

“Os yw’r pleidiau gwleidyddol eraill yng Nghymru o ddifrif am hyn, byddant yn cael cyfle i gefnogi cynnig Plaid Cymru yn y Senedd heddiw, ac ymrwymo i ddarparu setliad cyflog a chadw diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys isafswm gwarantedig o £10 yr awr i weithwyr gofal.

 

“I’n gofalwyr, sydd wedi rhoi cymaint i mewn i ofalu amdanom yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf yn ystod ein hoes, dyma’r lleiaf y gall llywodraeth ei wneud drostynt.”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle