Archif ddigidol newydd unigryw’r Brifysgol yn rhannu blwyddyn o brofiadau pob dydd o’r pandemig

0
520

Bydd archif ddigidol ar-lein sy’n llawn deunydd am brofiadau cannoedd o bobl o Covid-19 yn cael ei lansio ym Mhrifysgol Abertawe ar 23 Mawrth – flwyddyn ers dechrau’r cyfnod clo cyntaf yn y DU. 

Mae mwy na 700 o hanesion personol – sy’n amrywio o nodiaduron, dyddiaduron a chofnodion breuddwydion mewn llawysgrifen i fideos, cyhoeddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, deunydd TikTok, rhestrau chwarae a hyd yn oed sampler croesbwyth – yn cofnodi 12 mis y pandemig. 

Dr Michael Ward, uwch-ddarlithydd gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n arwain y prosiect DyddiaduronCorona. Mae tîm o fyfyrwyr wrthi’n ei helpu’n wirfoddol i baratoi’r dogfennau i’w gweld yn gyhoeddus mewn archif ddigidol ar-lein, a gaiff ei hategu gan gasgliad ffisegol yn Archifau Richard Burton y Brifysgol. 

Meddai: “Yn wreiddiol, crëwyd y prosiect fel astudiaeth gymdeithasegol mewn ymateb i ddigwyddiad digynsail wrth i gymdeithasau ledled y byd geisio ymaddasu. 

“Dros y 12 mis diwethaf, mae DyddiaduronCorona wedi bod yn cofnodi profiadau beunyddiol pobl o’r pandemig yn yr un ffordd ag y gwnaeth yr astudiaethau arsylwi torfol cyn, yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd.” 

Mae 182 o bobl rhwng 11 oed ac 89 oed, o 14 o wledydd gwahanol, wedi cymryd rhan yn y prosiect. 

Mae eu hanesion am ddal a goroesi Covid-19, colli anwyliaid, a theimlo’n unig ac yn ynysig yn hynod emosiynol ac maent yn cynnwys disgrifiadau cyfoethog o fyd newidiol. 

Maent hefyd yn dangos pa mor gyflym y gwnaeth pobl ymgynefino â’r argyfwng, wrth i’w cyflwyniadau ddogfennu digwyddiadau allweddol megis prynu mewn panig, curo dwylo i’r GIG, a thonnau parhaus y feirws. 

Meddai Dr Ward: “Mae’r cofnodion yn dangos newidiadau i ffyrdd o fyw o ganlyniad i’r pandemig, toriadau ym mywydau teuluoedd, newidiadau i arferion gwaith, diflastod a natur swrrealaidd cyfnodau clo a chyfyngiadau symud, a newidiadau i fywyd cymdeithasol a chartref. 

“Yn hytrach na gweithio gartref, mae llawer o bobl yn byw yn y gwaith erbyn hyn. 

“Mae’r dyddiaduron yn dangos bod pobl yn gynddeiriog o hyd a’u bod wedi colli ffydd mewn gwleidyddion, yn ogystal â pha mor gyffredin y mae’r ymdeimlad o golled, yn bersonol ac yn ein cymdeithas ehangach. Yn sicr, mae’n ymddangos bod y rhai sy’n ennill incwm isel a’r rhai nad ydynt wedi gallu gweithio gartref wedi dioddef yn anghymesur.” 

Ysgrifennodd Eve, menyw 19 oed sy’n gweithio mewn cartref gofal: “Roedd hi’n teimlo fel petai’r genedl, ochr yn ochr â gweddill y byd, yn rhan o ffilm ddystopaidd. Roedd heddweision yn debyg i aelodau o’r blaid yng ngwaith George Orwell. Roedd eu dyletswyddau bellach yn cynnwys atal ceir a holi gyrwyr am eu bwriadau.” 

Fodd bynnag, mae Dr Ward yn datgan bod y dyddiaduron hefyd yn cynnwys gobaith a digrifwch, wrth i’r rhai sydd wedi cyfrannu atynt ymateb i’r pandemig mewn ffyrdd creadigol a dychmygus lle mae diddordebau newydd a chysylltiadau ar-lein wedi arwain at fywyd cymdeithasol gwahanol. 

Mae’r cyfranogwyr yn dweud bod cofnodi eu profiadau wedi bod yn destun rhyddhad, gan eu helpu i ddeall y newidiadau sydd wedi digwydd. 

Ychwanegodd Dr Ward: “Rydym am i’r casgliad hwn fod yn dystiolaeth o gyfnod newidiol a chythryblus. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd cyfres o lyfrau’n dilyn.” 

Mae tîm DyddiaduronCorona Prifysgol Abertawe’n cynnwys Eve Moriarty, cydlynydd dyniaethau digidol, a grŵp o fyfyrwyr sydd wedi gwirfoddoli, gan gynnwys Ellie Griffiths, Nahomi Witt-Calvas, Sana Afreen, Angeliki Glarou, Stella-Rae Hicks, Ciaran Barry, Holly Beardshall, Maisie Godden a Georgia Molliex.

Mae’r myfyrwyr sy’n helpu gyda’r prosiect hwn yn dilyn amrywiaeth o gyrsiau gradd ac maent wedi bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr hanesion yn ddienw ac am ddadansoddi’r swm anferth o ddata uniongyrchol a’u paratoi ar gyfer yr archif ddigidol. 

Gellir cysylltu â Dr Michael Ward drwy ffonio 07890 874188, drwy e-bostio m.r.m.ward@abertawe.ac.uk neu drwy anfon neges at @mrmwardphd 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle