Cystadleuaeth yn Chwilio am Ddatrysiadau Cynaliadwy ar gyfer Dyfodol Twristiaeth yng Nghymru

0
340

Mae’r prosiect Next Tourism Generation (NTG) sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mewn cydweithrediad â Tourism Society Cymru a PLANED, yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr twristiaeth alletygarwch, pobl ifanc 16-25 oed sy’n gweithio yn y sector twristiaeth gan gynnwys y rhai sydd ar ffyrlo ac sydd wedi colli’u swydd yn ystod pandemig Covid, i ennill £250.

Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu syniadau gorau ar “Sut olwg ddylai fod ar ddyfodol twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru, a nodi pa sgiliau a gwybodaeth sy’n ofynnol i ddarparu datblygiad twristiaeth gynaliadwy yng Nghymru.”

Mae pedwar categori dyfarnu, a dylai pob ymgeisydd gyfeirio at y categori yn eu cynnig digidol a’u crynodeb 250 gair. Rhaid i bob ymgeisydd ddarparu cynnig mewn fformat digidol: fideo, cyflwyniad PowerPoint, gwefan, ap neu drwy fformat digidol arall, yn ogystal â chwblhau crynodeb 250 gair â gwybodaeth atodol yn Gymraeg neu Saesneg.

Y 4 categori gwobr yw:
1. Diwydiant twristiaeth a seilwaith a noddir gan Tourism Society Cymru
2. Offer a thechnoleg ddigidol, noddir gan M-SParc
3. Yr amgylchedd ac ecoleg a noddir gan Bluestone
4. Noddwr cymunedau lleol i’w gadarnhau

Bydd enillwyr ar gyfer y pedwar categori noddedig ac enillydd ar gyfer y cyfan. Mae beirniaid y gystadleuaeth yn arbenigwyr blaenllaw ym maes eco-dwristiaeth, datblygu cymunedol, marchnata digidol a thwristiaeth yng Nghymru, a bydd pob cais yn derbyn adborth unigol. Bydd enillwyr hefyd yn cael y cyfle i fynychu seremoni wobrwyo a symposiwm sgiliau twristiaeth gyda chyflogwyr twristiaeth blaenllaw o Gymru.

Dyddiad cau’r gystadleuaeth: Ebrill 30ain 2021.

Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys telerau ac amodau llawn a’r ffurflen gais, i’w gweld yma:
https://nexttourismgeneration.eu/event/ntg2021-cymraeg/
https://nexttourismgeneration.eu/event/ntgwales2021/

Dyma’r 2il Gystadleuaeth Next Tourism Generation yng Nghymru. Yr enillydd cyffredinol yn 2020 oedd Evan Davies, myfyriwr o Goleg Sir Benfro sy’n anelu at fod yn Gogydd. Tanlinellodd Evan, “Roedd y gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i gynorthwyo fy nhyfiant personol a hyrwyddo fy ngyrfa mewn lletygarwch. Mae’n hanfodol i ddatblygu a meithrin gyrfaoedd ym maes lletygarwch oherwydd gall dysgu crefft newydd ehangu gorwelion.”

Enillydd arall yn 2020 oedd Jenna O’Brien o Goleg Menai, Bangor, “Mae’r gystadleuaeth hon wedi rhoi’r cyfle i mi fynegi fy angerdd a brwdfrydedd dros warchod amgylchedd, diwylliant ac iaith fy ardal, yn ogystal â fy helpu i sylweddoli pa faes twristiaeth gynaliadwy yr hoffwn ei ddilyn.”

Prosiect y Next Tourism Generation (NTG) Next Tourism Generation Alliance (NTG) yw’r bartneriaeth a chynghrair Ewropeaidd cyntaf ar gyfer gwella’r berthynas gydweithredol a chynhyrchiol rhwng addysg a diwydiant. Bydd NTG Alliance yn darparu set o fodiwlau craidd NTG mewn sgiliau digidol, gwyrdd a chymdeithasol i weithwyr, cyflogwyr, entrepreneuriaid, athrawon, hyfforddwyr a myfyrwyr.

Mae tîm NTG Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi arwain ymchwil yng Nghymru, ac â 14 o bartneriaid Ewropeaidd, mae NTG Alliance wedi tystio i’r galw am gydweithredu gwell rhwng addysg, darparwyr hyfforddiant a diwydiant, a’r angen i fynd i’r afael â bylchau sgiliau digidol a chynaliadwyedd yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch. Mae’r uwchsgilio hwn yn bwysicach nag erioed i helpu i sicrhau adferiad cryf rhag effeithiau pandemig Covid. Nod y gystadleuaeth felly yw dod â myfyrwyr, gweithwyr proffesiynol ifanc a chynrychiolwyr blaenllaw’r diwydiant ynghyd i helpu i greu dyfodol cadarnhaol, nodi
arfer gorau wrth ddysgu a dathlu llwybrau gyrfa yn y diwydiant.

Pwysleisiodd Iwan Thomas, Prif Swyddog Gweithredol PLANED, “Er mai penllanw’r gystadleuaeth fydd symposiwm mentora arbenigol rhithiol gwych a arweinir gan y diwydiant ar gyfer cyfranogwyr yn ogystal â seremoni wobrwyo, i PLANED, mae’r gystadleuaeth yn sail i rôl y sector mewn cymunedau ledled Cymru. Ni ellir tanbrisio rhyng-ddibyniaeth busnesau o fewn y sector, a’r effaith economaiddgymdeithasol ehangach y maent yn ei chael ar gymunedau, yn enwedig ar draws ein cymunedau gwledig
ac arfordirol.”

Amlygodd John Walsh-Heron, Cadeirydd Tourism Society Cymru, “Mae’r gystadleuaeth hon yn cefnogi ein nodau yng Nghymru i ddod â sectorau twristiaeth ynghyd i rwydweithio a datblygu arfer gorau, cefnogi dysgu ac annog dealltwriaeth o dwristiaeth gynaliadwy. Mae gan bobl ifanc heddiw olwg  unigryw ar y byd o’u cwmpas a gallant fod yn arloesol yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol gan ddangos ffyrdd newydd y gallwn agor ein lletygarwch.”

Gobaith y partneriaid yw y bydd y gystadleuaeth yn denu ceisiadau o bob rhan o Gymru ac yn rhoi llwyfan i bobl ifanc rannu syniadau arloesol. Pwysleisiodd Louise Dixey, Cydlynydd Datblygu Prosiect NTG ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, “Mae’r gystadleuaeth hon yn taflu goleuni ar bobl ifanc a’u dyheadau i ddarparu gweledigaethau cadarnhaol o ddyfodol twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru. Mae’n rhoi cyfle i ymgeiswyr arddangos eu syniadau a sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol ac ar gyfer yr adferiad rhag pandemig Covid-19.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle