Annog preswylwyr i roi’r gair ar led am ‘Dywedwch fwy wrthyf fi’

0
435

Mae preswylwyr yn cael eu hannog i roi’r gair ar led ac annog eu ffrindiau a’u teuluoedd i gael brechlyn Covid-19.

Mae yna tua 140,000 o bobl yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot eisoes wedi cael y brechlyn mewn ymgais i arafu lledaeniad y feirws.

Ar ben hynny, mae pobl a fu’n cefnogi cyfyngiadau Llywodraeth Cymru trwy ddilyn y rheolau wedi helpu i sicrhau gostyngiad sylweddol yn y cyfraddau heintio yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Ond mae arweinwyr y cynghorau lleol yn dweud y dylai pawb ddal i chwarae eu rhan trwy barhau i ddilyn y rheolau a helpu i roi’r gair ar led am y brechlyn er mwyn helpu i chwalu ofnau ac amharodrwydd i ymddiried ynddo.

Dywedodd Edward Latham, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd a Chyngor Abertawe rydyn ni’n cefnogi’r ymgyrchDywedwch fwy wrthyf fi’ sy’n ceisio chwalu mythau am y feirws a diffyg ymddiriedaeth ymhlith cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Mae’r ymgyrch yn gwneud popeth posibl i annog pobl i gael y brechlyn trwy eu cyfeirio at wybodaeth onest a chywir am y brechlynnau sydd ar gael, fel eu bod nhw’n gallu gwneud dewisiadau gwirioneddol wybodus.

“Mae miloedd lawer o bobl eisoes wedi cael eu dogn cyntaf o’r brechlyn ac mae eraill eisoes wedi cael yr ail. Mae’r GIG a’r Meddygon Teulu yn ein cymunedau wedi gwneud gwaith rhyfeddol i sicrhau bod y broses yn hwylus ac mor ddiffwdan â phosib.

Rydyn ni’n gallu deall bod rhai pobl yn amheus ynghylch cael y brechlyn, o bosib oherwydd gwybodaeth ffug sy’n cael ei lledaenu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Uchelgais yr ymgyrch Dywedwch Fwy Wrthyf Fi yw rhoi sylw uniongyrchol i’r pryderon hyn a rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i bobl er mwyn iddyn nhw fod yn hyderus bod y brechlynnau’n ddiogel, bod y cynhwysion yn cyd-fynd â’u credoau crefyddol a phersonol, ac y byddan nhw’n helpu i’w diogelu nhw a’u hanwyliaid.

Ychwanegodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: “Rydyn ni’n nesáu at flwyddyn ers cyhoeddi bod pandemig. Fel cymunedau, rydyn ni wedi dod at ein gilydd fel na wnaethom erioed o’r blaen i gefnogi ein gilydd trwy gyfnod a fu’n drawmatig i lawer.

Rydyn ni wedi gweld pobl yn ymddwyn yn ofalgar at eu cymdogion a miloedd o ddieithriaid yn gwirfoddoli i gefnogi’r bregus. Fel cymunedau, gallwn ni gydweithio eto i ledaenu gwybodaeth onest a chywir am y brechlyn, fel bod modd i bobl wneud dewisiadau gwybodus ynghylch beth i’w wneud.

“Mae degau o filoedd o bobl wedi cael y brechlyn a bydd llawer mwy yn cael gwahoddiad yn yr wythnosau sy’n dod, yn unol â chynlluniau Llywodraeth Cymru. Gadewch i ni roi’r gair ar led, gan rannu’r ffeithiau, a derbyn y brechiad pan ddaw ein tro ni.”

Canfu astudiaeth ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod: “yr anghydraddoldeb mwyaf i’w weld rhwng grwpiau ethnig ymhlith nifer yr oedolion 80+ sy’n cael y brechlyn. Roedd y nifer ar draws y grwpiau Du, Asiaidd, Cymysg ac ethnig Eraill yn y grŵp oedran hwn yn 71.5%, o gymharu â 85.6% yn y grŵp ethnig Gwyn, sef bwlch o 14.1%.Roedd y bwlch hwn yn dechrau cau wrth gymharu grwpiau iau, ond roedd yn dal yn sylweddol.

Mae’r ymgyrch Dywedwch Fwy Wrthyf Fi yn cael ei gyrru gan y Fforwm Brechlyn Coronafeirws BAME, ac mae’n cael ei chefnogi gan arweinwyr ffydd lleol, Cymdeithasau Cymunedau BME, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac asiantaethau eraill lleol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.tellmemore.wales


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle