Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar gamau gweithredu i greu Cymru Wrth-hiliol falch

0
338

Y bore yma mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ‘Cymru Wrth-Hiliol – Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru’.

Mae’r Cynllun drafft, sydd wedi’i lansio ar gyfer ymgynghoriad deuddeg wythnos, yn defnyddio profiadau byw o hiliaeth ac mae wedi’i llunio gyda chymorth pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ymchwilwyr, swyddogion polisi, cymunedau a rhanddeiliaid hil allweddol eraill.

Mae’r broses hon wedi creu cyfres o gamau gweithredu cyraeddadwy y gellir eu cyflawni i fynd i’r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb ar draws y Llywodraeth, yn amrywio o addysg i iechyd, tai i’r economi, a mwy.

Nodir hefyd y camau y bydd Llywodraeth Cymru ei hun yn eu cymryd, ar lefel sefydliadol, i fynd i’r afael â hiliaeth systemig ac anghydraddoldeb o fewn ei strwythurau ei hun. Mae’r brys am y Cynllun yn amlwg ac wedi’i ddwysáu gan effaith pandemig COVID-19 a gwelededd ac ymateb digyffelyb y byd i ladd George Floyd yn yr Unol Daleithiau.

Yr haf diwethaf, tynnwyd sylw mewn adroddiad ar effaith Covid-19 ar bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog, at y ffaith bod hiliaeth ac anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol hirsefydlog wedi’u gwaethygu gan y pandemig.

Yn sgil hyn, fe wnaeth Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog sy’n gyfrifol am Gydraddoldeb, ofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol “uchelgeisiol a radical”.

Fe wnaeth y Gweinidog hefyd wahodd yr Athro Emmanuel Ogbonna o Brifysgol Caerdydd i gyd-gadeirio Grŵp Llywio’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol gyda’r Fonesig Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:

“Mae Llywodraethau olynol Cymru wedi gweithio’n galed i leihau hiliaeth ac anghydraddoldebau hiliol. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, ond mewn llawer o feysydd mae anghydraddoldeb yn dal i fod yn staen ystyfnig ar ein cymdeithas. Wrth i ni ddechrau adfer o’r pandemig, mae gennym gyfle i greu Cymru decach a mwy cyfartal. Mater i’r rheini ohonom sydd mewn swyddi o bŵer yw arwain y ffordd drwy weithredu.

“Mae cyhoeddi’r cynllun heddiw ond yn ddechrau ein taith i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn a dod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030. Mae bod yn wrth-hiliol yn golygu bod angen i ni i gyd wneud ymdrech ymwybodol a gweithgar i herio hiliaeth lle bynnag y gwelwn ni hynny.

“Rydym yn gwybod bod ein partneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus am ddod gyda ni ar y daith hon ond mae bod yn wrth-hiliol yn golygu bod yn onest, gofyn cwestiynau difrifol i ni’n hunain, cael sgyrsiau anodd am y ffordd orau o fynd i’r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb ac yna cymryd y camau priodol.

“Rydym hefyd yn galw ar y cyhoedd i fod yn rhan o’r sgwrs hon – mae’n hanfodol ein bod yn cael eu mewnbwn ar y camau rydym yn eu nodi.

“Dim ond dechrau proses hir yw heddiw. Os cawn hyn yn iawn, byddwn yn creu cymdeithas lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydynt a’r cyfraniad a wnânt. Pan fydd hynny’n digwydd, rydyn ni i gyd yn ennill.”

Dywedodd cyd-Gadeirydd Grŵp Llywio’r Cynllun Gweithredu, yr Athro Emmanuel Ogbonna:

“Mae’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn seiliedig ar werthoedd gwrth-hiliaeth. Rwy’n falch iawn ein bod o’r diwedd yn edrych tuag at gymdeithas yng Nghymru lle bydd cydraddoldeb i bawb, lle nad oes unrhyw oddefgarwch o hiliaeth o bob math, a lle ceir ymdrech ymwybodol i gymryd camau i atal anfantais hiliol.

Lluniwyd y cynllun hwn ar y cyd â nifer o randdeiliaid: gweithredwyr hil/ethnigrwydd, academyddion, Undebau Llafur, llywodraeth leol, arweinwyr cymunedol, arweinwyr crefyddol ac aelodau o’r cyhoedd. Dyma’r tro cyntaf i ni wneud hyn: ffordd newydd radical o weithredu amcanion cyraeddadwy.

Mae gennym arweinwyr wrth wraidd Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn fentrus drwy gymryd y cam cyntaf hwn, ac sydd wedi ymrwymo i gyflawni newid. Rwy’n teimlo’n galonogol iawn y bydd y dull gwahanol hwn yn arwain at newid ystyrlon.”

Yr wythnos diwethaf, derbyniodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, holl argymhellion adroddiad ar Gymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd.

Mae’r Gweinidog hefyd wedi cadarnhau y bydd £500,000 yn cael ei ddarparu i helpu i weithredu argymhellion yr adroddiad, fel rhan o’r gwaith o gyflawni’r Cwricwlwm newydd i Gymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle