Buddsoddiad ychwanegol i gefnogi cyn-filwyr yng Nghymru

0
264

Roedd rhagor o gyllid ar gyfer gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol Cymru yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar gyn-filwyr. Fel rhan o becyn cymorth newydd Llywodraeth Cymru o fwy na £500,000 i gyn-filwyr, cafwyd cyllid ychwanegol ar gyfer Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog ac ar gyfer canllaw ymaddasu newydd i gefnogi’r rheini sy’n gadael y Lluoedd Arfog.

Mae’r cyllid hwn yn cynnwys:

  • £235,000 arall y flwyddyn i ariannu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i Gyn-filwyr o 2021/22 ymlaen
  • £275,000 y flwyddyn i ariannu Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog ledled Cymru tan 2023
  • £50,000 i hyfforddi’r sawl sy’n gweithio yn y maes prostheteg yng Nghymru mewn technolegau newydd
  • £120,000 i gefnogi elusennau milwrol i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol
  • £250,000 i gefnogi plant y Lluoedd Arfog

Mae’r cyllid sydd wedi’i neilltuo gan y Llywodraeth ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i Gyn-filwyr, sydd bellach yn £920,000 y flwyddyn, yn gynnydd o 35%. Yn ogystal â chreu swyddi Arweinwyr Clinigol Hynod Arbenigol a fydd yn arbenigo mewn gofal i gyn-filwyr yn y gwasanaeth, mae’r cyllid blynyddol ychwanegol ar gyfer 2021/22 hefyd yn cynnal y ddarpariaeth therapi a gefnogwyd cyn hyn leded Cymru am y 3 blynedd diwethaf gan yr elusen Help for Heroes.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg:

“Gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yw’r unig wasanaeth cenedlaethol o’i fath yn y DU ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Mae’n cefnogi therapyddion penodedig ym mhob bwrdd iechyd i wella iechyd meddwl a llesiant cyn-filwyr. Gall cyn-filwyr gyfeirio eu hunain at y gwasanaeth a byddan nhw’n cael cymorth gan therapydd sydd â phrofiad penodol o faterion iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi’r gwasanaeth hynod werthfawr hwn sydd o fudd i gyn-filwyr o bob oed a chefndir ym mhob rhan o Gymru.”

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi darparu Cerdyn Rheilffordd i Gyn-filwyr yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymuno â’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-filwyr, gan roi gwarant o gyfweliad i gyn-filwyr sy’n bodloni manylebau swyddi sylfaenol pan fyddan nhw’n gwneud cais i ymuno â’r gwasanaeth sifil.

“Rydyn ni’n gwybod bod gan gyn-filwyr amrywiaeth hynod werthfawr o sgiliau i’w cyfrannu at ein gweithleoedd a’n cymunedau. Mae’r pecyn hwn o gyllid a chymorth yn canolbwyntio ar eu helpu nhw i ffynnu. Fodd bynnag, yn ystod y pandemig rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer yr unigolion sy’n teimlo’n unig ac yn ynysig ac mae hyn wedi bod yn her. Rydw i’n falch iawn bod cyllid Llywodraeth Cymru wedi helpu i fynd i’r afael â hyn ar gyfer cyn-filwyr ledled Cymru.”

Mae BLESMA, yr elusen filwrol ar gyfer cyn-filwyr sydd wedi colli coesau neu freichiau, VC Gallery yn Hwlffordd, a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr ymhlith yr elusennau sydd wedi gweithio i helpu cyn-filwyr yng Nghymru sydd wedi bod yn teimlo’n unig neu’n ynysig dros y flwyddyn ddiwethaf.

Cyn y pandemig, cynhaliodd BLESMA brydau bwyd ochr yn ochr â sesiynau hyfforddi digidol. Yn ystod y pandemig, gwnaed trefniadau er mwyn cynnal eu clwb llyfrau ar-lein.

Darparodd Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr gardiau SIM a chyfrifiaduron llechen i gyn-filwyr a oedd yn teimlo’n ynysig a’u helpu i fynd ar-lein. Cafodd sesiynau Tai Chi a myfyrio eu cynnal ganddynt hefyd.

Cefnogodd VC Gallery yn Hwlffordd gyn-filwyr hŷn i ennill sgiliau digidol ac i fynd ar-lein yn ystod y pandemig, a chysylltwyd yn rheolaidd â hwy drwy alwad ffôn. Cafodd clybiau celf ddigidol a pharseli bwyd a gwiriadau llesiant eu cynnig hefyd i’w haelodau mwyaf agored i niwed.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle