Hwb o £9.8 miliwn i fioamrywiaeth Cymru

0
347

Mi fydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn dweud heddiw bod safleoedd naturiol gwarchodedig a chynefinoedd bywyd gwyllt hanfodol Cymru yn cael hwb o bron i £10 miliwn.

Bydd y cyllid yn rhoi cymorth i rai o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion mwyaf poblogaidd Cymru trwy gefnogi prosiectau sy’n gwella safleoedd naturiol gwarchodedig Cymru – o Aber Hafren i Rostiroedd Llandegla.

Mae’r safleoedd hyn yn gartref i rywogaethau eiconig – fel y dyfrgi, y dolffin trwyn potel a’r morlo llwyd, ochr yn ochr â’r llai adnabyddus – fel y planhigyn petallys a’r falwoden troellen. Maent hefyd yn gartref i ystod eang o adar, gan gynnwys y pâl yr Iwerydd sydd mewn perygl difrifol.

Bydd Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol yn gweinyddu’r Gronfa Rhwydweithau Natur gan ddarparu grantiau rhwng £50,000 – £500,000 i brosiectau sy’n gweithio o fewn ffiniau safleoedd naturiol gwarchodedig Cymru.

Mae’r safleoedd yma yn hanfodol bwysig ac yn darparu lefel uchel o ddiogelwch i bron i 70 o rywogaethau a mwy na 50 math o gynefin sy’n wynebu bygythiadau ledled y byd.

Maent hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru trwy dwristiaeth hamdden, ffermio, pysgota a choedwigaeth. Ac maen nhw’n darparu gwasanaethau cynnal bywyd hanfodol i bob un ohonom – gan gynnwys puro dŵr yfed a storio carbon.

Bydd y cynllun Cronfa Rhwydweithiau Natur yn cefnogi gwaith fel creu neu gwympo coetiroedd; rheoli rhywogaethau goresgynnol; gwneud gwelliannau i ansawdd dŵr trwy garthu neu reoli erydiad; adfer cynefinoedd; creu swyddi gwyrdd ac eraill.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

“Mae Cymru â gweddill y byd yn wynebu argyfwng natur gyda chyflwr ein bywyd gwyllt a’n cynefinoedd naturiol yn dirywio gan fygwth difodiant i rai o’n rhywogaethau mwyaf eiconig.

“Mae’r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu i’r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yn gam hanfodol wrth amddiffyn ac adfer yr ardaloedd hyn a’n helpu i gryfhau rhwydweithiau ecolegol gwydn.

“Mae hyn yn rhoi gwell cyfle i ni fwynhau ac i’n lles meddyliol elwa o ein bywyd gwyllt a’n parciau cenedlaethol hardd heddiw ac i’r dyfodol. Mae’n golygu bod y gwasanaethau y mae natur yn eu darparu i ni yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt – fel dŵr glân ac aer – yn cael eu diogelu’n well. Ac mae’n golygu y gallwn ni, a phopeth byw yng Nghymru, adeiladu gwell gwytnwch yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

“Mae lleoedd fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn hynod bwysig i fywyd gwyllt a threftadaeth naturiol Cymru.

“Maen nhw’n gonglfeini i’n gwaith adfer natur, ac maen nhw’n amddiffyn ystod, ansawdd ac amrywiaeth rhai o’n rhywogaethau pwysicaf. Edrychaf ymlaen at weld y prosiectau cyffrous sy’n codi o’r gronfa sydd – ochr yn ochr â’r gwaith arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, yn adeiladu adferiad gwyrdd ac iach o coronafeirws. ”

Wrth groesawu y Gronfa Rhwydweithiau Natur dywedodd Andrew White – Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:

“Mae safleoedd gwarchodedig yn chwarae rhan hanfodol wrth wyrdroi effeithiau newid yn yr hinsawdd ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi adferiad gwyrdd Cymru drwy’r Gronfa Rhwydweithiau Natur.

“Bydd y Gronfa Rhwydweithiau Natur hefyd yn cefnogi cymunedau yn y safleoedd gwarchodedig ac o’u cwmpas i gymryd rhan yn y gwaith hanfodol hwn. Bydd cymryd rhan yn rhoi buddion uniongyrchol i iechyd a lles y cymunedau rhain ynghyd â gwella gwytnwch y safleoedd.”

Er bod y Gronfa Rhwydweithiau Natur yn agor ar gyfer ceisiadau ar 12 Ebrill, mae manylion am y rhaglen bellach ar gael ar wefan Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Rhwng 12 Ebrill a 24 Mai, gall prosiectau sydd eisiau grantiau rhwng £50,000 a £100,000 gyflwyno eu ceisiadau.

Bydd angen i brosiectau sydd â diddordeb mewn ceisio am grantiau rhwng £100,000 a £500,000 gyflwynno mynegiad o ddiddordeb i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru rhwng 12 Ebrill a 30 Ebrill.

Ar ôl hyn, gwahoddir grwpiau sydd wedi llwyddo yn y cam mynegiant diddordeb i wneud cais am grant rhwng 19 Mai a 30 Mehefin.

Gellir gweld gwybodaeth y Gronfa Rhwydweithiau Natur yma: https://www.heritagefund.org.uk/cy/node/110977


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle