Gwaith i ddechrau ar ysgol gynradd newydd gwerth £7.5 miliwn ym Mhen-bre

0
774

Bydd gwaith adeiladu yn dechrau ar ysgol gynradd newydd sy’n werth £7.5 miliwn ar gyfer Pen-bre cyn diwedd tymor yr haf. 

Bydd adeilad newydd yr ysgol yn cael ei godi ar y maes hamdden/cae chwarae yn union gerllaw safle’r ysgol bresennol ar Heol Ashburnham, 
gan ddarparu cyfleusterau addysgu o safon uchel i wella’r profiad dysgu cyffredinol, yn ogystal â bod o fudd i’r gymuned leol. 

Bydd lle i 270 o ddisgyblion cynradd a 30 o ddisgyblion meithrin, gan gynnwys cyfleuster Dechrau’n Deg sydd ar hyn o bryd mewn ystafell ddosbarth symudol ar safle’r ysgol bresennol. 

Dywedodd Helen Jacob, Pennaeth yr Ysgol: “Rydym yn edrych ymlaen at gael ein hadeilad ysgol newydd sbon ym Mhen-bre lle y gallwn ddarparu cyfleoedd a phrofiadau addysgol o safon ar gyfer ein plant. 

“Mae pawb yn llawn cyffro am ddysgu mewn ysgol fodern, bwrpasol a fydd yng nghalon y gymuned.”

Mae’r prosiect yn rhan o Raglen Moderneiddio Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin, a bydd yn cael ei ariannu ar y cyd â Llywodraeth Cymru, drwy ei menter Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Mae’r adeilad wedi cael ei ddylunio gan benseiri’r Cyngor a bydd y gwaith yn cael ei gyflawni gan TRJ Ltd, sef contractwr lleol. 

Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn tymor yr haf yn 2023. 

Ychwanegodd Gareth Morgans, y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant: “Rydym wrth ein boddau y bydd y gwaith yn dechrau cyn bo hir i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Pen-bre a fydd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf a llety sy’n addas i ddysgu ynddo yn yr 21ain ganrif. 

“Mae adeiladu’r ysgol newydd gerllaw’r maes hamdden yn golygu ein bod yn gallu cael cyn lleied o darfu â phosibl a helaethu safle’r ysgol ar yr un pryd i ddarparu cyfleusterau y mae’r disgyblion a’r staff yn eu haeddu.”

Ar hyn o bryd mae’r maes hamdden mewn ymddiriedaeth gan y cyngor, ond bydd yn cael ei drosglwyddo i Gyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn er mwyn sicrhau bod y tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ysgol newydd. 

Yn rhan o’r broses ymgynghorwyd â’r trigolion lleol a phartïon eraill sydd â diddordeb yn y gymuned.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle