Ymgynghorwyr trais domestig y cyngor yn derbyn Gwobr yr Uchel Siryf

0
551
Neath Port Talbot Council's IDVA team (photo taken before coronavirus guidelines were introduced)

Cydnabuwyd tîm Ymgynghorwyr Trais Domestig Annibynnol (IDVA) Cyngor Castell-nedd Port Talbot am ei waith sydd o bosib wedi achub bywydau yn ystod Gwobrau Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg 2021.

Enillodd y tîm IDVA, ynghyd â’i gydweithwyr yng Nghyngor Abertawe ac Uned Cam-drin Domestig Heddlu De Cymru, wobr am ei waith mewn partneriaeth wrth gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig trwy gydol y pandemig. Cydnabuwyd yr ymgynghorwyr Allyson, Karen ac Eve a’r gweithiwr cefnogi busnes Kelly am eu hymdrechion yn ystod y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd ar-lein oherwydd cyfyngiadau COVID-19.

Meddai Elinor Wellington, y Prif Swyddog Diogelwch Cymunedol, “Rwy’n hynod falch y cydnabuwyd ein tîm IDVA am y gwaith gwych maent yn ei wneud i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig yng Nghastell-nedd Port Talbot.

“Mae cyfyngiadau COVID-19 wedi arwain at gynnydd yn y galw am eu gwasanaethau ac wedi creu heriau o ran sut maen nhw’n darparu eu cefnogaeth. Er hyn, mae’r tîm wedi llwyddo o hyd i helpu’r rheini y mae angen cymorth arnynt.

Mae’r ymgynghorwyr yn rhan o dîm Diogelwch Cymunedol y cyngor a gallant helpu dioddefwyr cam-drin domestig trwy gynllunio diogelwch priodol i leihau’r risg sy’n eu hwynebu. Gall hyn gynnwys cefnogaeth yn ystod prosesau’r llys, cefnogaeth i ddod o hyd i lety arall, gwella diogelwch eu cartrefi a help i gyrchu gwasanaethau cefnogi eraill.

Os ydych yn ddioddefwr cam-drin domestig neu os ydych yn amau bod rhywun arall mewn perthynas gamdriniol, gallwch gysylltu ag ymgynghorwr Byw Heb Ofn am gyngor a chefnogaeth am ddim:

Rhif ffôn: 0808 80 10 800

E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru

Neges destun: 07860077333

Gwefan: llyw.cymru/byw-heb-ofn

Mewn argyfwng, ffoniwch 999.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle