Taflenni uniaith Saesneg y Prif Weinidog yn “enghraifft arall o eiriau gwag ar filiwn o siaradwyr Cymraeg” – Plaid

0
401

Dim golwg o’r Gymraeg ar daflenni a ddosbarthwyd yn etholaeth Mark Drakeford.

Mae diffyg Cymraeg ar daflenni ymgyrch Mark Drakeford yn enghraifft arall eto fyth o “eiriau gwag” Llafur pan ddaw’n fater o’u haddewid i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd, Rhys ab Owen.

Derbyniodd rhai trigolion yng Ngorllewin Caerdydd, etholaeth Mark Drakeford, daflen yn cynnwys ‘newyddion gan eich tîm Llafur lleol’ gyda geiriad uniaith Saesneg.

Cyhuddodd Mr ab Owen, sy’n anfon gohebiaeth ddwyieithog i drigolion, Lafur yng Nghymru o “osod rhif ond anghofio dangos arweiniad” ar dargedau iaith Gymraeg.

Wrth apelio at y Prif Weinidog  i  “gwrdd ag anghenion siaradwyr Cymraeg”,  amlygodd Mr ab Owen y ffaith y byddai Plaid Cymru yn neilltuo mwy o gyllid er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn cael ei gyrraedd, ynghyd â mesurau eraill a fwriedir i hwyluso a chefnogi’r defnydd o’r iaith.

Dywedodd Mr ab Owen,

“Mae etholwyr wedi dod i gysylltiad â mi gan ddweud eu bod yn rhyfeddu bod Prif Weinidog Llafur yn gwneud tro gwael a chymaint o’i etholwyr  yng Ngorllewin Caerdydd.

“Dyma enghraifft arall eto fyth o eiriau gwag ynghylch miliwn o siaradwyr Cymraeg. Allwch chi ddim cyfiawnhau gosod targed ar gyfer 2050 ac yna cerdded ymaith oddi wrth gyfrifoldeb personol.

“Trwy ohebu’n ddwyieithog â’r trigolion, rwy’n gobeithio fy mod yn gallu normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg mewn ardal sydd mor gefnogol i’r iaith ac a welodd dwf anhygoel yn nifer y plant sy’n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn neilltuo mwy o gyllid ac yn codi statws Prosiect 2050 a thrwy hynny ddylanwadu ar benderfyniadau polisi ar draws pob adran, sefydlu gofodau newydd i’r iaith Gymraeg (gan gynnwys gofod diwylliannol a mannau gwaith) er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl ddefnyddio’r iaith, a bydd yn dyblu’r cyllid i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn cyrraedd targed 2050.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle