Wedi eu siomi a’u gadael ar ôl – busnesau Cymru wedi eu hanghofio gan Lywodraeth Cymru ar drothwy’r tymor gwyliau – Plaid

0
286
Adam Price - Plaid Cymru Leader

Mae busnesau Cymru a’r sector lletygarwch wedi cael eu “siomi a’u gadael ar ôl” gan ddiffyg cefnogaeth ariannol mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi dweud.

Roedd Mr Price yn ymateb i adroddiadau na fydd pecyn Cronfa Gwydnwch Economaidd Llywodraeth Lafur Cymru yn cael ei ymestyn y tu hwnt i fis Mawrth – fel roedd busnesau wedi disgwyl.

Mae dull Gweinidogion yn un o “ddangos dirmyg at sectorau allweddol yr economi ar drothwy’r tymor gwyliau.”

Cymeradwyodd arweinydd Plaid Cymru farn rhai busnesau sy’n dweud eu bod wedi cael eu “camarwain” gan weinidogion ynghylch cefnogaeth ariannol yn y dyfodol.

Dywedodd Adam Price:

“Dro ar ôl tro, mae busnesau annibynnol o Gymru sy’n anadl einioes ein heconomi yn cael eu gadael i lawr a’u gadael ar ôl.

Ychydig o fanylion a roddwyd iddynt ar ailagor ac yn awr maent yn wynebu’r posibilrwydd o gael eu cau ar ddechrau’r tymor gwyliau heb unrhyw gymorth ariannol pellach ar gael.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i’r rownd olaf o gymorth ariannol gael ochrau elastig iddi – er ei bod i fod i ddod i ben yfory.

Nid yw ymestyn ei gwmpas heb gynyddu’r pot yn helpu busnesau sydd, mewn rhai achosion, yn wynebu penderfyniadau anodd ynghylch eu hyfywedd tymor hir.

Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru Llafur gloddio’n ddyfnach a rhoi’r gorau i ddangos dirmyg i sectorau allweddol o’r economi ar drothwy’r tymor gwyliau. “


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle