Elusennau Iechyd Hywel Dda yn Annog Pawb i Garu’r Awyr Agored ym mis Mai

0
314

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn lansio digwyddiad llesiant a fydd yn rhedeg trwy gydol mis Mai.

Mae elusen swyddogol y GIG yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn gobeithio y bydd yr ymgyrch fis o hyd yn gyfle i staff y GIG, cleifion a’r cyhoedd gofleidio’r dyddiau hirach a’r tywydd mwynach, a chymryd amser iddynt eu hunain ar ôl blwyddyn heriol.

Dywedodd y Rheolwr Codi Arian, Tara Nickerson, “Rydyn ni’n gwybod bod pawb wedi cael gwahanol brofiadau yn ystod y 12 mis diwethaf, o wynebu salwch, i golli anwyliaid, newid amgylchiadau yn y gwaith, addysg gartref a’r cyfyngiadau ar ein bywydau i gyd. Roeddem am roi cyfle i bawb fyfyrio a bod yn ystyriol ym mis Mai. Rydyn ni wedi’n bendithio â thirweddau hardd ar garreg ein drws ac rydyn ni wedi creu siart wal mis i annog pawb i fynd tu allan a chofleidio’r rhyfeddodau naturiol o’n cwmpas.”

Bydd pawb sy’n cofrestru i gymryd rhan yn y digwyddiad yn cael pecyn o hadau blodau gwyllt lliwiau’r enfys fel diolch ac atgof o’u mis llesiant, ac fe’u hanogir i gefnogi eu helusen GIG leol os gallant, gan roi rhodd o £1 y diwrnod. Bydd yr arian a godir yn cefnogi gwasanaethau a gweithgareddau sydd y tu hwnt i’r hyn y mae’r GIG yn ei ddarparu.

Mae’r gweithgareddau a awgrymir wedi’u cynllunio i fod yn gynhwysol ac yn hygyrch, gan gynnwys syniadau syml fel syllu ar y sêr, sylwi ar flodau gwyllt a mwynhau paned o de gan fwynhau’r olygfa, a mynd â fflasg ar daith gerdded a gwneud amser i ystyried.

Anogir cyfranogwyr i addasu’r syniadau i’w galluoedd a’u diddordebau eu hunain, ac i rannu lluniau er mwyn cofnodi eu profiadau ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #HywelDdaCarurAwyrAgored a #HywelDaLoveTheOutdoors.

Gellir cofrestru ar gyfer Caru’r Awyr Agored trwy eventbrite.co.uk/e/146734901039 a gall cefnogwyr gyfrannu yn justgiving.com/campaign/LovetheOutdoors


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle