Heddiw (Dydd Iau 15 Ebrill), mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS wedi cyflwyno gweledigaeth ei blaid ar gyfer sicrhau newid trawsnewidiol i ofal cymdeithasol yng Nghymru drwy weithio tuag at gynnig gofal sy’n “rhad ac am ddim yn ol yr angen”.
Dywedodd Adam Price AS mai un o weithredoedd cyntaf llywodraeth Plaid Cymru fyddai sefydlu Comisiwn i archwilio ffyrdd y gallai gael arian ychwanegol i ariannu’r gwaith o greu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol di-dor, am ddim pan yn ol yr angen.
Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru bod y pandemig wedi “taflu goleuni” ar gyfraniad amhrisiadwy gweithwyr gofal gan ailadrodd addewid ei blaid i warantu isafswm cyflog o £10 yr awr i bob gweithiwr gofal.
Dywedodd Adam Price AS,
“I rai sydd a’u hanwyliaid mewn gwasanaeth gofal ar hyn o bryd, nid yw ymroddiad y staff yn syndod.
“Ond mae Covid-19 wedi taflu goleuni ar waith caled, arloesedd a heriau darparu cymorth gofal cartref, gofal nyrsio yn y gymuned ac ansawdd bywyd preswylwyr mewn cartrefi gofal.
“Rwyf wedi gweld gyda fy llygaid fy hun y frwydr y mae llawer o deuluoedd yn ei hwynebu. I’m mam, sy’n gofalu am fy nhad â dementia a chymaint o rai eraill yn yr un sefyllfa, byddai gofal cymdeithasol am ddim yn wirioneddol drawsnewidiol.
“Dyna pam mai un o’m gweithredoedd cyntaf fel Prif Weinidog sy’n arwain llywodraeth Plaid Cymru fyddai sefydlu Comisiwn i archwilio ffyrdd y gallem gael arian ychwanegol i ariannu’r gwaith o greu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol di-dor, am ddim yn ol yr angen.
“Byddai’r Comisiwn yn adrodd o fewn blwyddyn ac yn ystyried yr opsiwn a ffefrir gan Blaid Cymru o ddefnyddio trethiant cyffredinol a hefyd Cronfa Gofal Cymdeithasol ar sail ardollau yn debyg i’r hyn awgrymwyd gan yr economegydd Gerald Holtham.
“Byddai Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol newydd yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei hintegreiddio’n ddi-dor ar lefel leol, gan ddod â llywodraeth leol a byrddau iechyd at ei gilydd mewn Partneriaethau Gofal Rhanbarthol newydd.
“Dylai prosesau asesu gofal ganolbwyntio ar nodi angen gofal personol, yn hytrach na’r diffiniadau mympwyol o ofal ‘iechyd’ neu ‘gymdeithasol’.
“Er mwyn i’r Gwasanaeth newydd fod yn llwyddiant mae’n rhaid iddo weithio i’r gofalwyr yn ogystal â’r rhai sy’n derbyn gofal.
“Dyma pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn buddsoddi yn ystod ac ansawdd y gofal yn y gymuned drwy gynyddu nifer y nyrsys ardal a nyrsys sydd â gradd meistri cymunedol a chynyddu lleoliadau myfyrwyr nyrsio mewn cartrefi gofal ochr yn ochr â datblygu llwybrau gyrfa mewn gofal i Bobl Hŷn a gofal dementia.
“Rydym hefyd wedi cyflwyno cynlluniau i sicrhau bod cyflog gweithwyr gofal yn cyd-fynd yn raddol â chyflogau staff y GIG, gan ddechrau gyda gwneud isafswm cyflog o £10 yn orfodol i weithwyr gofal.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle