Cyfranogiad Elusennau Iechyd Hywel Dda yn her Capten Tom 100

0
1776

• Menter codi arian newydd dros benwythnos pen-blwydd Capten Tom, sef dydd Gwener 30 Ebrill, i Ddydd Gŵyl y Banc ddydd Llun 3 Mai i ddathlu ei fywyd a’i gyflawniadau anhygoel.

• Mae’r Capten Tom 100 yn gwahodd pobl ledled y byd i ymgymryd â her yn seiliedig y rhif 100 – ac mae pobl yn cael eu gwahodd i godi arian ar gyfer y GIG lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro

I ddathlu cyflawniadau anhygoel y Capten Syr Tom Moore a nodi beth fyddai wedi bod yn ei ben-blwydd yn 101 oed, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn gwahodd pobl i gymryd rhan mewn her godi arian yn seiliedig ar y rhif 100 dros benwythnos gŵyl banc mis Mai i godi arian ar gyfer y GIG lleol.

Mae’r her #CaptainTom100 yn cynnig cyfle i bobl o bob oed a gallu godi arian hanfodol, gan ddathlu bywyd rhyfeddol Capten Tom a’i gyflawniad rhyfeddol o godi £38.9m i NHS Charities Together flwyddyn yn ôl.

Yn dilyn y llu o negeseuon twymgalon ers marwolaeth y Capten Syr Tom Moore ar 2il Chwefror, addawodd ei deulu ddathlu ei fywyd gyda digwyddiad y gallai pawb yn y DU fod yn rhan ohono.

Cropped portrait of a handsome and athletic young sportsman listening to music while out for a jog in the park

Y digwyddiad hwnnw yw #CaptainTom100 a rhwng dydd Gwener, 30ain Ebrill a dydd Llun, 3ydd Mai, mae teulu’r Capten Tom yn gwahodd pobl i ddewis unrhyw weithgaredd sy’n cynnwys y rhif 100 ac i godi arian at elusen ar yr un pryd.

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn falch o fod yn gwahodd ei gefnogwyr i gymryd rhan i godi arian i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion a staff y GIG yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Fe allech chi ddringo 100 o risiau, rhedeg am 100 munud, plannu 100 o hadau, bod yn ddistaw am 100 munud, cerdded 100 lap o’ch gardd, rhedeg dosbarth ymarfer rhithwir i 100 o bobl, codi 100 darn o sbwriel, mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Gallech hefyd addo codi £100.

Trwy gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda, bydd unrhyw arian a godir yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gleifion a staff y GIG yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Ar ôl i gefnogwyr ddewis eu her, gallant godi arian neu gyfrannu at Elusennau Iechyd Hywel Dda yma: Captain Tom 100 (justgiving.com). A beth am rannu’ch 100 ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio #CaptainTom100.

Dywedodd merch Capten Tom, Hannah Ingram-Moore: “Rydyn ni mor ddiolchgar am y gefnogaeth anhygoel rydyn ni wedi’i chael ers i fy nhad gychwyn ar ei daith gerdded codi arian a oedd wedi torri record a bod ei neges o obaith wedi’i rhannu gyda’r byd. Roedd y Capten Tom yn falch iawn o allu gadael etifeddiaeth gynyddol ei Sefydliad ar ôl.

“Rydyn ni’n gwybod y byddai wrth ei fodd gyda’r syniad o wahodd pawb i gymryd rhan fel y gallwn gyda’n gilydd sicrhau ‘Bydd yfory yn ddiwrnod da’. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu gyda chi ar yr hyn a fyddai wedi bod yn benwythnos ei ben-blwydd yn 101 oed ”

Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn: “Rydyn ni wrth ein boddau o fod yn rhan o’r penwythnos elusennol gwych hwn, i nodi beth fyddai wedi bod yn ben-blwydd y Capten Syr Tom Moore yn 101 oed.

“Cipiodd ei 100 lap o’i ardd flwyddyn yn ôl galon y genedl a chodi £38.9m rhyfeddol i NHS Charities Together.

“Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi derbyn ac yn parhau i dderbyn arian o’r gronfa ac wedi gallu darparu cannoedd o nwyddau i gleifion fywiogi eu harhosiad yn yr ysbyty a helpu i’w cadw mewn cysylltiad ag anwyliaid. Rydym hefyd wedi gallu rhoi llawer o eitemau newydd i’n staff GIG ar gyfer eu hardaloedd gorffwys ac ar gyfer eu llesiant.

“Byddem wrth ein bodd pe bai pobl yn gallu cymryd rhan yn yr her arbennig hon ar wyl y banc a chodi arian i’n helpu i barhau i gefnogi’r GIG lleol.

“Cofiwch ddilyn canllawiau’r llywodraeth ar ymarfer corff a phellter cymdeithasol – a phob lwc i bawb.”

Gallwch ddarganfod mwy am yr her #CaptainTom100 yn CaptainTom100.com


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle