Music to your ears

0
690

A summer evening of spectacular music from the scintillating Symphonica Tywi will take place on midsummer’s evening (June 20) at the National Botanic Garden of Wales.

The midsummer ‘A Night At The Proms’ concert will be a special 80-minute celebration of British tradition with spine-tingling music that will exhilarate the mind and tantalise the senses. The acoustics within the architecture of the Great Glasshouse mean that the audience is subjected to a beautiful, powerful sound wherever they locate themselves.

This annual jewel in the Garden’s calendar will welcome the return of the fabulous 40-piece orchestra, which encourages full audience participation. The event promises some full-flavour classics that will suit all tastes, including many well known and loved songs from the movies.

The music of Mozart, Rimsky Korsakov, Sibelius and Dvorak sits alongside Rodgers and Hammerstein, ‘Jurassic Park’ and John Williams’ classic ‘Flight To Neverland’ from the Peter Pan movie ‘Hook’ as well as stirring ‘Proms’ staples such as Pomp and Circumstance, Rule Britannia and Jerusalem.

National Botanic Garden spokesman, David Hardy said: “It’s always a wonderful occasion. People bring along picnic hampers and really make a night of it. In truth, there’s not much to beat sitting in among the Mediterranean plantings as the sun goes down, listening to this fantastic orchestra play their beautiful music.”

Bring your picnic, your Welsh flags and your union flags and celebrate a midsummer’s night to remember; Saturday 20th June from 7.30pm until dusk.

Tickets are £12 (£10 for Garden members). Book yours by calling 01558 667148.

The National Botanic Garden of Wales is a registered charity, partly funded by the Welsh Government and Carmarthenshire County Council.

For more information about this or other events or anything Garden-related, call 01558 667149, email info@gardenofwales.org.uk  or go to www.gardenofwales.org.uk


 

Gwledd i’r Glust

Noson o gerddoriaeth soniarus ar noson o haf gan yr anhygoel Symffonica Tywi fydd  cyngerdd Gŵyl Ifan Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar noson ganol haf.

Bydd y cyngerdd ganol haf ‘Noson o Gerdd’ yn ddathliad arbennig 80 munud o draddodiad Prydeinig gyda cherddoriaeth gwefreiddiol fydd yn cyffroi’r meddwl ac yn rhoi awch i’r synhwyrau.   Mae’r acwstig o fewn cromen y Tŷ Gwydr Mawr yn golygu y bydd y gynulleidfa yn profi sŵn hyfryd a grymus ble bynnag y byddant o fewn yr adeliad.

Mae hon yn gyngerdd sy’n berl flynyddol yng nghalendr yr Ardd, sy’n gweld y gerddorfa 40-darn hon yn dychwelyd yno, ac yn annog ymgyfranogiad llawn torf niferus.   Mae’r rhaglen yn cynnwys clasuron nodedig fydd at ddant pawb, ac yn eu tro yn cynnwys nifer o ganeuon adnabyddus a phoblogaidd o fyd y ffilmiau.

Bydd cerddoriaeth Mozart, Rimsky Korsakov, Sibelius a Dvorak i’w glywed ochr yn ochr â Rodgers a Hammerstein, Jurassic Park, a chlasur John  Williams, Flight to Neverland o’r ffilm sy’n adrodd stori Peter Pan, Hook, ynghyd â ffefrynnau arferol y Proms, fel y Pomp and Circumstance March, Rule Britannia a Jerusalem.

Meddai llefarydd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, David Hardy:  “Mae hon bob amser yn gyngerdd arbennig. Mae pobl yn dod â’u hamperi bwyd er mwyn cael picnic, ac yn gwneud noson go iawn ohoni.   A dweud y gwir, does dim i guro eistedd ymhlith y planhigion Canoldirol wrth i’r haul fachlud, a gwrando ar y gerddorfa ysblennydd hon yn datgan cerddoriaeth llesmeiriol.”

Dewch â’ch picnic, a’ch baneri Cymreig, neu hyd yn oed Jac yr Undeb, a dathlu noson Gŵyl Ifan i’w chofio ar Ddydd Sadwrn, Mehefin 20 o 7.30yh tan y cyfnos.

Mae tocynnau yn £12 (£10 i aelodau’r Ardd) ar gael yn www.gardenofwales.org.uk, neu wrth e-bostio info@gardenofwales.org.uk, neu wrth alw 01558 667149.

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn elusen gofrestredig, wedi’i hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn a digwyddiadau eraill, neu unrhywbeth sy’n ymwneud â’r Ardd, galwch 01558 667149, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu ewch i www.gardenofwales.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle