Adfywio naturiol yn disodli coed a gynaeafwyd mewn coetir fferm

0
377
OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Mae fferm yn Sir Ddinbych yn cynaeafu pren o’i choetir er mwyn pweru boeler biomas ac er mwyn ei werthu fel tanwydd pren wrth fabwysiadu technegau adfywio naturiol i ddisodli’r coed hynny.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Mae gan Huw Beech goetir 12.5 hectar (ha) yn fferm Plas yn Iâl, fferm 75ha ger Llandegla.

 

Nid yw’r coetir, sy’n rhan o Goetir a Pharcdir Hanesyddol Cofrestredig CADW, wedi cael ei reoli ers 65 o flynyddoedd.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

 

Mae Mr Beech yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio ar brosiect safle ffocws, gan ddefnyddio dull gweithredu rheoli coedwigaeth lle y caiff y canopi ei gadw, a chaiff coed unigol neu grwpiau bychain o goed eu gwaredu ar adegau penodol.

 

Mae’r dechneg hon, a elwir yn goedwigaeth gorchudd parhaus, yn caniatáu i olau gyrraedd llawr y goedwig, er mwyn annog tyfiant eginblanhigion.

 

Bydd hyn yn caniatáu iddo sicrhau incwm trwy werthu’r pren fel tanwydd yn lleol, a bodloni anghenion ei foeler ei hun wrth wella a datblygu buddion amgylcheddol a bioamrywiaeth y coetir.

 

Cynghorydd y prosiect yw Phil Morgan, cyfarwyddwr Sustainable Forest Management a SelectFor, sy’n arbenigwr mewn coedwigaeth gorchudd parhaus.

 

Mae wedi bod yn rhoi cymorth i Mr Beech yn ei rôl fel Mentor Cyswllt Ffermio.

 

Mewn gweminar Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd yn ddiweddar, dywedodd Mr Beech wrth gyfranogwyr mai’r prif beth sy’n ei ysgogi ef i reoli’r coetir mewn ffordd weithredol yw’r ffaith y disodlwyd tri boeler confensiynol yn y ffermdy mawr yn fferm Plas yn Iâl gyda boeler biomas 70kW.

 

Fel rhan o’r prosiect, arolygwyd darnau o’r coetir, a elwir yn ‘lleiniau’ ym maes coedwigaeth, gan ddefnyddio technegau a oedd yn cynnwys technoleg drôn.

 

Caiff coed penodol eu gwaredu er mwyn caniatáu golau i ddod trwodd.

 

Ar ôl gwaredu’r coed mwy o faint, bydd coed canolig a llai yn tyfu i lenwi’r bwlch.

 

“Mae angen cadw’r coesynnau o ansawdd gorau, nid oes yn rhaid i’r rhain fod y rhai mwyaf.  Dylid targedu coed sydd â diffygion,” cynghorodd Mr Morgan ffermwyr sy’n ystyried camau tebyg.

 

“Bydd gwaredu’r coed mwy o faint yn creu digon o le ar gyfer adfywio, a bydd hyn yn caniatáu i olau gwasgaredig ddod i mewn.”

 

Mae effaith y ffaith nad yw golau yn cyrraedd llawr y goedwig yn fferm Plas yn Iâl yn amlwg mewn rhan o’r coetir lle mae stoc wedi cael ei wahardd ers 18 mlynedd, ond lle na fu unrhyw adfywio naturiol.

 

Roedd y canopi’n gaeedig gan fod y coetir yn llawn coed ffawydd a sycamorwydd mawr, ac nid oedd y golau’n gallu dod trwodd.

 

“Mae canopi coed mawr mor helaeth fel eu bod yn atal golau rhag dod i mewn,” meddai Mr Morgan.

 

Mae prosiect safle ffocws Cyswllt Ffermio wedi newid y ffordd y mae Mr Beech yn ystyried ei goetir – yn flaenorol, roedd yn ei ystyried yn faich.

 

“Rydym wedi dysgu, os byddwch yn rheoli eich coetir yn y ffordd gywir, byddwch yn cynyddu cynhyrchiant.  Bellach, rydym yn ystyried ein coetir fel ased,” dywedodd.

 

Roedd Mr Beech yn dymuno annog eraill i fanteisio ar wasanaeth mentora a chynghori Cyswllt Ffermio, sy’n caniatáu i ffermwyr a choedwigwyr gael arweiniad a chyngor gan eu cymheiriaid am ystod eang o faterion.

 

“Mae gwybodaeth a chymorth Phil wedi bod yn amhrisiadwy,” meddai.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle