Sesiynau ar-lein ar thema GoldiesLive

0
310

Ym mis Mawrth llynedd golygodd cyfnod clo Covid y bu’n rhaid canslo sesiynau hwyl Canu a Gwenu Goldies Cymru yr arferid eu cynnal yn ystod y dydd.

 

Gan na allai Goldies, fel y caiff ei alw fel arfer, fynd i neuaddau ac eglwys a llyfrgelloedd, cyflwynodd yr elusen sesiynau ar-lein gyda dwy arweinydd boblogaidd o Gymru, Rachel Parry a Cheryl Davies.

 

Mae’r sesiynau wedi datblygu dros y misoedd diwethaf ac maent nawr yn ymestyn allan i gannoedd o bobl hŷn ac ynysig yn eu cartrefi eu hunain. Mae GoldiesByw wedi arwain y ffordd ar ganu soffa!

 

Ychwanegiad diweddar fu cyflwyno sesiwn GoldiesByw misol yn y Gymraeg dan arweiniad Sian Francis. Mae hyn yn cynnwys caneuon gwerin Cymraeg poblogaidd ac eisoes yn denu cynulleidfa fawr a brwdfrydig.

 

Cynhelir y sesiwn nesaf ddydd Llun 3 Mai o 11am – gyda mynediad rhwydd drwy www.goldieslive.com

 

Cafodd Sian ei geni yn y Cymoedd ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a dau blentyn. Bu Siân wedi dwlu ar gerddoriaeth ers yn ifanc. Cafodd ei magu yn cystadlu mewn Eisteddfodau ac mewn cynyrchiadau theatr gerdd lleol. Mae’n angerddol am gerddoriaeth Gymraeg ac wrth ei bodd i arwain ei sesiynau misol gyda Goldies.

 

Ychwanegiad newydd gwych i GoldiesLive yw cyflwyno ymarferion cadair rhwydd gyda Steph Bosanko, sydd â chymwysterau dysgu Yoga.

 

Ar 10 Mehefin bydd Cheryl Davies yn dathlu ei gwaith gyda Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr gyda cheisiadau am ganeuon a dangosiad o fideo ohonynt yn canu.

 

Bydd y ffocws ar Wythnos Iechyd Dynion ar 17 Mehefin.

 

Bydd Sarita Sood yn ôl ym mis Gorffennaf gyda’i symudiadau dawns Bollywood gwych a bydd pawb yn edrych ymlaen at y sesiwn ar 6 Gorffennaf pan fydd Rachel yn cynnwys caneuon sydd angen sgarff plu i’w canu.

 

Mae croeso i bawb ymuno yn wythnosol ar ddyddiau Mawrth a Iau ar www.goldieslive.com, gyda Sian ar ddydd Llun cyntaf bob mis. Cânt eu darlledu ar YouTube a Facebook ac wrth gwrs gellir eu hail-weld ar unrhyw amser o’r wefan.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle