Disgybl o Gaint yn ennill cystadleuaeth genedlaethol Cyfrifiad 2021

0
271

Cyfrifiad 2021 Logo

Datganiad i’r wasg

29 Ebrill 2021

Ariadne Young winner of national Census 2021 competition

Mae disgybl Blwyddyn 7 o Gaint wedi ennill £1,000 i’w hysgol a’r cyfle i gwrdd â seren Gogglebox, Tom Malone, fel rhan o gystadleuaeth genedlaethol y cyfrifiad.

Enillodd Ariadne Young, o Ysgol Gatholig St Anselm yng Nghaergaint, y brif wobr yng nghystadleuaeth ‘Dyma ein Stori’ y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a oedd yn gofyn i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed greu ymgyrch i ysgogi eu cymuned leol i gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021.

Gofynnwyd i bobl ifanc o fwy na 2,000 o ysgolion a cholegau ledled Cymru a Lloegr ddylunio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth cynulleidfa benodol o’r arolwg hwn a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd, drwy ddefnyddio fideos YouTube, taflenni, erthyglau ar-lein neu bostiadau cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r gystadleuaeth yn rhan o raglen ehangach i ysgolion uwchradd a gaiff ei chynnal gan SYG. Nod y rhaglen, sydd wedi’i datblygu gan EVERFI UK, yw addysgu myfyrwyr am bwysigrwydd y cyfrifiad a sut y gall data fod o fudd i’w hardaloedd lleol drwy weithgareddau trawsgwricwlaidd.

Ar gyfer ei chais buddugol, creodd Ariadne fideo YouTube gan ddefnyddio ei sgiliau tafleisio i esbonio pam y dylai pawb gwblhau’r cyfrifiad.

“Roedd y myfyrwyr yn dysgu am fesur y boblogaeth ar gyfer ein pwnc ar Bobl y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod clo ym mis Chwefror 2021. Roeddwn i am roi cyfle iddyn nhw wneud rhywbeth difyr a chreadigol tra oedden nhw gartref, felly anfonais y dasg atynt o greu cais ar gyfer y gystadleuaeth,” meddai Rose O’Rourke, athrawes Ariadne.

“Rhoddodd hyn gyfle iddyn nhw ddysgu am y rhesymeg y tu ôl i’r cyfrifiad mewn ffordd ddifyr ac addysgol. Cefais fy rhyfeddu o weld yr amrywiaeth o ffyrdd y gwnaeth y myfyrwyr eu defnyddio i gyfleu eu neges.”

Yn ogystal â’r talebau cyfarpar TG gwerth £1,000 ar gyfer ei hysgol, mae Ariadne hefyd wedi ennill sesiwn holi ac ateb gyda seren Gogglebox a TikTok, Tom Malone, sef un o genhadon Rhaglen Addysg Uwchradd y Cyfrifiad, a’r cyfle i’r cais buddugol gael ei gadw fel cofnod cyhoeddus hanesyddol gan yr Archifau Gwladol yn Archif Gwe Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Bydd y ceisiadau eraill a ddaeth yn agos i’r brig yn cael eu cadw yn Archif Gwe Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd. Roedd y rhain yn cynnwys timau o fyfyrwyr o:

  • Ysgol Gatholig St Anselm, Caergaint
  • Ysgol Uchaf Latymer, Llundain
  • Ysgol Guiseley, Leeds
  • Ysgol Uwchradd Manceinion i Ferched, Manceinion
  • Ysgol Uwchradd yr Esgob Hedley, Merthyr Tudful
  • Ysgol Uwchradd Portsmouth, Portsmouth
  • Ysgol Tewkesbury, Tewkesbury

Cafodd y ceisiadau eu beirniadu gan banel o arbenigwyr, gan gynnwys cyd-sylfaenydd Teacher Tapp a’r newyddiadurwr addysg, Laura McInerney, pennaeth addysg ac allgymorth yr Archifau Gwladol, Andrew Payne, dirprwy gyfarwyddwr cyfathrebu SYG, Karen Campbell-White, llywydd EVERFI UK, Nick Fuller MBE, a rheolwr gyfarwyddwr M&C Saatchi, Tom Firth.

Dywedodd Karen Campbell-White, dirprwy gyfarwyddwr cyfathrebu SYG: “Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd yw’r cyfrifiad ac mae’n effeithio ar bawb mewn rhyw ffordd. Roeddem yn awyddus i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfle i ddeall yr arolwg a’r ffordd y mae’n effeithio ar eu bywydau ac ar eu cymunedau lleol. Gwnaethom ofyn iddynt ystyried sut y byddent yn hyrwyddo’r cyfrifiad yn eu cymuned leol. Gwnaeth ein cystadleuaeth sbarduno llawer o syniadau creadigol ac roedd y ceisiadau’n ardderchog. Hoffwn longyfarch yr ysgol a’r disgybl buddugol ar greu syniad ar gyfer ymgyrch a oedd yn wirioneddol unigryw, ac a gafodd ei gyfleu â brwdfrydedd ac angerdd.

“Mae’r rhaglen ysgolion uwchradd wedi llwyddo i ennyn diddordeb miloedd o bobl ifanc ledled Cymru a Lloegr.

“Er bod diwrnod y cyfrifiad wedi bod, nid yw’n rhy hwyr i ymateb ac mae SYG yn parhau i ofyn cwestiynau pwysig er mwyn helpu i lywio polisïau’r llywodraeth er budd y cyhoedd. Mae ein gwaith yn hollbwysig, ac rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 ymhen blwyddyn.”

Ychwanegodd Nick Fuller, llywydd EVERFI EdComs: “Roedd ansawdd yr holl geisiadau yn anhygoel. Dangosodd y myfyrwyr eu bod wir yn deall pwysigrwydd y cyfrifiad i’w cymunedau a gwnaethant ddangos cryn dipyn o greadigrwydd yn eu hymgyrchoedd. Gwnaethant lwyddo i gyfleu eu pwyntiau allweddol yn dda iawn!”

Rydym wedi cael ymateb gwych i Gyfrifiad 2021. Fodd bynnag, mae amser ar ôl o hyd i unrhyw un sy’n dal heb gymryd rhan yn yr arolwg hwn, a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd, wneud hynny nawr.

I gwblhau eich cyfrifiad, neu i ofyn am god mynediad ar-lein newydd, ewch i cyfrifiad.gov.uk. Gallwch chi hefyd ffonio canolfan gyswllt y cyfrifiad am ddim ar 0800 169 2021 yng Nghymru neu 0800 141 2021 yn Lloegr, i gael help neu i archebu holiadur papur.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle