Sesiynau ar thema GoldiesLive o’n blaenau

0
280
Yn y llun gwelir Rachel (blaen) a Cheryl, arweinwyr ar-lein GoldiesLive.

Ym mis Mawrth 2020 roedd y cyfnod clo a Covid yn golygu y bu’n rhaid canslo sesiynau Gwenu a Chanu hwyliog Elusen Goldies Cymru. Arferid cynnal y sesiynau yn ystod y dydd.

 Gan na fedrai “Goldies” fynd i neuaddau eglwys a chymunedol a llyfrgelloedd, fe wnaethant gyflwyno sesiynau ar-lein gyda dwy arweinydd poblogaidd, Rachel Parry a Cheryl Davies.

 Dros y misoedd diwethaf mae’r sesiynau wedi tyfu ac maent bellach yn ymestyn allan i gannoedd o bobl hŷn ynysig yn eu cartrefi eu hunain. Mae GoldiesLive wedi arwain y ffordd ar ganu soffa!

 Mae’r sesiynau ar ddyddiau Mawrth dan arweiniad Rachel yn dilyn ‘themâu’ poblogaidd ac yn yr wythnosau nesaf byddant yn canolbwyntio ar ofalwyr ar draws Cymru, Sul y Tadau, Diwrnod Cerdd y Byd a’r Diwrnod Ysgrifennu Cenedlaethol. Bydd y sesiynau yn cynnwys fideos gyda nifer o arweinwyr sesiynau Goldies Cymru yn cynnwys Ray Mound a Rob Cadman o Essex a Carol Pegler a Sue Thomas yng Nghymru.

 Ychwanegiad diweddar ar-lein fu cyflwyno sesiwn GoldiesLive misol yn y Gymraeg dan arweiniad Sian Francis. Mae’n cynnwys caneuon gwerin poblogaidd Cymraeg ac eisoes yn denu cynulleidfa fawr a brwdfrydig.

 Mae cyflwyno ymarferion cadair ysgafn dan arweiniad Steph Bosanko hefyd yn ychwanegiad newydd gwych i GoldiesLive. Mae gan Steph gymwysterau fel athrawes Yoga ac mae’n dweud mai ei ‘phrif gymhwyster’ yw iddi gael ei magu mewn cartref gofal preswyl oedd yn cael ei redeg gan ei thad, ac iddi ddechrau gweithio yno fel gweithiwr gofal yn 14 oed ac wedyn aeth i weithio mewn cartrefi nyrsio am flynyddoedd lawer.

 Ar 10 Mehefin bydd Cheryl Davies yn dathlu ei gwaith gyda Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr gan gynnwys eu ceisiadau eu caneuon a fideo ohonynt yn canu.

 Yn ystod yr Wythnos Iechyd Dynion a 15 Mai bydd rhifyn arbennig o Essex gyda dau o’n harweinwyr sesiwn o Essex, Rob Cadman a Ray Mound, yn canu caneuon gan ddynion llai amlwg o’r 60au.

 Bydd Sarita Sood yn ôl ym mis Gorffennaf gyda’i symudiadau dawns Bollywood gwych a chynhelir sesiwn arall y bydd pawb yn edrych allan amdani ar 6 Gorffennaf pan fydd Rachel yn cynnwys caneuon sydd angen sgarff plu i’w canu!

 “Mae croeso i bawb ymuno â’r sesiynau wythnosol ar ddyddiau Mawrth a Iau, gyda Sian ar ddydd Llun cyntaf y mis. Cânt eu darlledu ar YouTube a Facebook ac wrth gwrs gellir edrych arnynt eto unrhyw amser o’r wefan,” meddai Grenville Jones, sefydlydd elusen Goldies.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle