Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn annog pobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i ymuno â te parti mwyaf y genedl ar 5 Gorffennaf a helpu i godi arian ar gyfer y bobl anhygoel yn ein GIG lleol sydd wedi gwneud cymaint i helpu pawb yn ystod y pandemig.
Yn dilyn blwyddyn anodd, mae elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eisiau i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan mewn digwyddiad o gariad cenedlaethol i ddiolch i staff a gwirfoddolwyr y GIG ar ei ben-blwydd trwy gynnal neu gymryd rhan mewn Te Mawr y GIG am 3pm ar 5 Gorffennaf.
Gall pob digwyddiad gael ei gynnal wyneb yn wyneb neu yn rhithiol, gyda’r gymuned, ffrindiau, teulu neu yn y gwaith, ac mae’n gyfle i fyfyrio a dweud diolch am bopeth y mae staff a gwirfoddolwyr y GIG wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud, tra’n codi arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda.
Gall pobl gynnal eu digwyddiad eu hunain neu gallant ddangos eu cefnogaeth trwy gymryd 5 munud i fwynhau egwyl, rhoi £5 i gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda a thagio pum ffrind ar gyfryngau cymdeithasol a galw arnynt i wneud yr un peth.
Anogir staff y GIG hefyd i gymryd seibiant ar 5ed Gorffennaf – eiliad i fwynhau paned ac egwyl bwysig pan allant.
Cysylltwch â thîm codi arian Elusennau Iechyd Hywel Dda ar fundraising.HywelDda@wales.nhs.uk i gofrestru, byddant yn anfon posteri, baneri, baneri cacennau ac ati, i’ch helpu gyda’ch Te Mawr. Gallant hefyd anfon pecyn cymorth y gellir ei lawrlwytho atoch.
Gallwch gyfrannu’r arian a godwyd o’ch Te Mawr yma: https://www.justgiving.com/campaign/HywelDdaBigTea21
Neu os byddai’n well gennych, gallwch ddangos eich cefnogaeth trwy fynd i Hywel Dda Health Charities | Facebook a chlicio ar y botwm glas ‘Rhoi’.
Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn: “Mae Te Mawr y GIG yn gyfle i ddangos eich cefnogaeth i’n harwyr lleol y GIG trwy ymuno mewn dathliad cenedlaethol o ddiolch ym mis Gorffennaf.
“Helpwch ni i gefnogi’r bobl anhygoel yn ein GIG lleol trwy ymuno â te parti mwyaf y genedl. Ac os nad ydych chi’n gallu cymryd rhan ar 5 Gorffennaf, mae unrhyw ddiwrnod ym mis Gorffennaf yn iawn. Cyn belled a’ch bod yn mwynhau paned.
“Mae eich rhoddion i Elusennau Iechyd Hywel Dda yn ein galluogi i ariannu prosiectau ac offer i wella bywydau cleifion a staff, yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu.”
Trefnir y Te Mawr gan NHS Charities Together – yr elusen genedlaethol sy’n gofalu am y GIG – y mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn aelod ohoni.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle