Staff yn codi arian ar gyfer gardd fyfyrio yn Ysbyty Tywysog Philip

0
503

Pob lwc i aelodau o staff Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli sy’n codi arian i greu gardd fyfyrio ar gyfer Ward 1. Ddydd Sul, Mai 9, bydd Sioned Howells a Santi Wassel yn rhedeg o Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin i YsbytyTywysog Philip yn Llanelli sef oddeutu 18.7 milltir. Ar ôl iddynt weithio ar ward Covid-19, maent wedi penderfynu codi arian tuag at greu gardd fyfyrio i gleifion a staff gymryd seibiant ac ymlacio. Bydd yr ardd yn rhoi ymdeimlad o heddwch a llonyddwch, sydd wir ei angen ar ôl y 14 mis anodd y bu’n rhaid iddynt ei wynebu trwy’r pandemig Covid-19.

Dywedodd Sioned Howells, Prif Nyrs y ward orthopaedeg yn Ysbyty Tywysog Philip: “Ar ôl gweithio ar Ward Covid-19 yn ystod y pandemig rydym yn codi arian ar gyfer gardd fyfyrio Covid 19 ar gyfer staff a chleifion, gan gofio’r rhai a gollwyd ac ar gyfer teuluoedd sydd wedi colli aelod o’r teulu i Covid-19. Gan ein bod ni’n redwyr brwd, roeddem o’r farn y byddai’n syniad gwych rhedeg o Ysbyty Glangwili i Ysbyty Tywysog Philip i godi arian gwneud ein rhediad wythnosol yr un pryd

Dywedodd Santi Wassel, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd ar Ward 1 yn PPH: “Fe wnes i ddod i Gymru gyda fy ngwraig 20 mlynedd yn ôl ac fe wnaetho ni syrthio mewn cariad â’r wlad hon. Pan gefais fy rhoi ar ffyrlo llynedd, roeddwn i eisiau helpu a gwneud rhywbeth dros y gymuned, felly mi wnes i gais am swydd yn y GIG, dechreuais weithio yn y gymuned gyda’r tîm ART a symud i ward 1 ym mis Rhagfyr. Mae’r swydd yn rhoi gymaint o foddhad i mi, hoffwn pe bawn wedi cael y cyfle yn gynharach mewn bywyd. “

Os hoffech chi gefnogi Sandi a Sioned ewch i: http://www.justgiving.com/Covid19ReflectionGarden


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle