Bydd Menter Moch Cymru yn cynnig hwb ychwanegol i ffermwyr moch yma yng Nghymru er mwyn ceisio gwella iechyd moch a hynny yn sicrhau gwell elw a gwell perfformiad iechyd y genfaint
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Menter Moch Cymru wedi cynnig cymorth ariannol i gynllunio iechyd y genfaint foch. Mae ffermwyr moch cymwys yng Nghymru ers 2019 wedi derbyn 80% o’r cyllid ar gyfer gweithredu cynllun cychwynnol i ofalu am iechyd y genfaint.
Yn ogystal â hynny roedd mwy o gefnogaeth ar gael yn y blynyddoedd dilynol ar gyfer adolygu’r cynllun.
Eleni er mwyn cynorthwyo ffermwyr moch ymhellach mae Menter Moch Cymru am gynnig 100% o gefnogaeth er mwyn sicrhau bod mwy o ffermwyr moch yma yng Nghymru yn cymryd mantais o Gynllun Iechyd y Genfaint.
I dynnu sylw at bwysigrwydd Cynllun Iechyd y Genfaint bydd Dr Alex Thomsett yn ymuno a Menter Moch Cymru mewn gwebinar a fydd yn canolbwyntio ar hyn sy’n gysylltiedig â chynllunio iechyd cenfaint moch ar Fai 27ain am 6.30yh. Beth am ymweld â gwefan Menter Moch Cymru i gofrestru eich diddordeb yn y gwebinar hwn.
Dywedodd Dr Alex Thomsett: “Gall ffermwyr moch wella iechyd, lles a chynhyrchedd eu moch trwy gynllunio iechyd.
“Gall cynllunio iechyd y genfaint anogi ddatblygiad rhaglen atal afiechyd ac amlinellu mesurau rheoli clefydau sydd yn addas ar gyfer eich fferm.”
Ariennir prosiect Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae’r fenter newydd hon yn adeiladu ar yr adnoddau gwybodaeth, cefnogi a hyfforddiant rhad ac am ddim y mae’r prosiect yn eu darparu i geidwaid moch yng Nghymru. Mae’r fenter yn gweithredu ymrwymiad y prosiect i helpu ffermwyr i sicrhau effeithiolrwydd ar y fferm ac i wthio arferion gorau’r dulliau rhagweithiol o gynllunio iechyd anifeiliaid.
Un ffermwr sydd wedi gweld gwahaniaeth sylweddol I’w chenfaint o foch, ac I sefyllfa ariannol y fferm ers iddi gychwyn ar y Cynllun Iechyd Cenfaint yw Gwenno Pugh o Fferm Penmynydd ar Ynys Mon.
Ar hyn o bryd mae 30 o hychod ar y fferm a dros y blynyddoedd diwethaf mae Gwenno wedi bod yn gweithio I sicrhau bod y fenter moch yn cynnwys mwy o ffocws ar fusnes. Mae hi’n pesgi tua 550 o foch bob blwyddyn ac yn y pen draw mae hi’n gobeithio cael hychod Cymreig yn unig ar y fferm
Dywedodd Gwenno:” Heb os byddwn yn annog pobl i fanteisio ar y Cynllun Iechyd y Genfaint trwy gyfrwng Menter Moch Cymru. Trwy brofi gwaed a brechu’r moch, rydw i’n cael llai o broblemau gyda fy nghenfaint bellach.”
Meddai Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Llywodraeth Cymru “Dros y blynyddoedd mae’r fenter hon i godi ymwybyddiaeth am afiechydon sydd yn bodoli ar ffermydd moch yma yng Nghymru wedi dod yn bwysig iawn. Mae Cynllunio Iechyd Moch gan gynnwys bioddiogelwch da yn bwysig i atal cyflwyniad a lledaeniad afiechydon o fewn ffermydd unigol a’r genfaint genedlaethol.”
Yn ôl Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, “Mae cynllunio iechyd y genfaint, dull rhagweithiol a chydlynol o ymdrin ag iechyd anifeiliaid, ynghyd â gwaredu afiechydon, yn gallu cael effaith sylweddol ar effeithiolrwydd ac elw net menter moch.”
“Mae cynnig hwb ariannol ychwanegol yn ffordd unwaith eto i gynorthwyo’r ffermwyr sydd heb dderbyn cyllid i gychwyn gweithio gyda milfeddygon i roi cynlluniau iechyd ar waith ac i fonitro eu heffeithiolrwydd dros y blynyddoedd nesaf. Mae hwn unwaith eto yn gyfle gwych i geidwaid moch yng Nghymru i asesu iechyd eu cenfeintiau a, gyda chymorth eu milfeddygon, sefydlu cynllun iechyd ymarferol sydd wedi’i deilwra i wella cynhyrchiad a phroffidioldeb”
Yn ogystal â hynny, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Menter Moch Cymru mewn partneriaeth â Chanolfan Milfeddygaeth Cymru, Gwasanaeth Iechyd Anifeiliaid ac Iechyd Da, wedi bod yn darparu hyfforddiant CPD sydd wedi’i deilwra’n benodol i Filfeddygon Cymru. Mae’r hyfforddiant hwn yn sicrhau bod y milfeddygon yn hyderus a gwybodus ynglŷn â sut i weithredu cynllun iechyd cenfaint ar gyfer menter moch.
Prif nod cynllun iechyd cenfaint yw hybu lles yr anifeiliaid drwy reoli unrhyw broblemau iechyd a ganfyddir drwy eu hatal. Mae gofalu’n well am iechyd yr anifail yn arwain at well proffidioldeb a pherfformiad gan y genfaint ynghyd â busnes sy’n fwy cynaliadwy.
Am fwy o wybodaeth beth am ymweld â’r wefan www.mentermochcymru.co.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle