Enwogion a ffigurau cyhoeddus byd-eang yn cefnogi Neges Heddwch 2021 yr Urdd

0
374

Mae Hillary Clinton, Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford, Matthew Rhys, Cerys Matthews, Michael Sheen, Tanni Grey-Thompson, Jess Fishlock, Rhys Patchell, Llysgennad Prydain i’r UDA Karen Price ac UN Women ymhlith y rheiny sydd wedi dangos cefnogaeth i Neges Heddwch ac Ewyllys Da pobl ifanc Cymru a ryddhawyd ar ffurf fideo gan Urdd Gobaith Cymru heddiw (dydd Mawrth, 18 Mai).

Ysgrifennwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021, ‘Cydraddoldeb i Ferched’ gan fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe ar ran pobl ifanc Cymru, ac mewn fideo pwerus maent yn galw ar bobl ledled y byd i sicrhau bod cydraddoldeb i ferched yn “fwy na hashnod.”

Bu’r sylw ar y cyfryngau cymdeithasol i’r ymgyrch yn cynyddu trwy gydol y dydd, gyda’r Neges yn cyrraedd dros 30 o wledydd mewn 65 iaith, ac yn denu cefnogaeth gan lu o enwogion a sefydliadau clodfawr, gan gynnwys UN Women.

Mae cannoedd o ysgolion a sefydliadau Cymru wedi cefnogi Neges Heddwch 2021, yn ogystal â sawl cyn-aelod adnabyddus o’r Urdd, gan gynnwys yr actor Matthew Rhys, sy’n dweud ei fod yn “hynod falch” o’r thema eleni.

“Fel cyn-aelod dw i mor falch o weld yr Urdd yn rhannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da o Gydraddoldeb i Ferched, ac mewn dros 60 o ieithoedd at hynny,” meddai Matthew Rhys. “Fel y sefydliad ieuenctid mwyaf yng Nghymru sy’n 99 oed, maent wedi profi eu bod nhw mor berthnasol heddiw ag erioed, drwy wneud addewidion i helpu mynd i’r afael â thlodi mislif a chynnig eu Gwersylloedd fel preswylfeydd i fenywod bregus.”

Mae’r Urdd fel sefydliad wedi ymrwymo i helpu i fynd i’r afael â thlodi mislif yng Nghymru drwy ddarparu cynnyrch hylendid am ddim yn eu gwersylloedd, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, ac yn eu digwyddiadau chwaraeon cenedlaethol. Bydd canolfannau preswyl sy’n eiddo i’r Urdd hefyd yn cael eu cynnig fel lleoliadau i grwpiau o ferched bregus gael ymlacio.

Meddai Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Siân Lewis: “Wrth i’r Urdd nesáu at y canmlwyddiant yn 2022 mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i sicrhau bod Cymru’n cael effaith gadarnhaol yn y byd. Rydym yn ddiolchgar i’r rheiny sydd wedi ein helpu i rannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021 mor eang â phosib, o aelodau i gyn-aelodau a chefnogwyr ledled y byd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle