Elusennau Iechyd Hywel Dda ar sut mae rhoddion wedi helpu cleifion yn ystod y pandemig

0
333
FLO with patient and distraction items

Lluniau 1 a 2 – Swyddog Cyswllt Teulu gydag eitemau cleifion a thynnu sylw Swyddog cyswllt teulu Ashley Williams yn darparu pos a llyfrau gweithgareddau i glaf Llun 5: Aelod o staff gyda rhai o’r deunyddiau ymolchi a gyflenwir gan Elusennau Iechyd Hywel Dda

Diolch i roddion gan gymunedau lleol ac arian gan NHS Charities Together dros y 12 mis diwethaf, mae Elusennau Iechyd Hywel Ddaelusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Ddawedi gallu prynu miloedd o eitemau i wneud bywyd yn well i gleifion ysbyty yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn ystod pandemig COVID-19.

O ddeunyddiu ymolchi, dillad a pyjamas, ar adeg pan na allai cleifion dderbyn ymwelwyr, i eitemau trydanol, gemau, gweithgareddau, celf a chrefft, defnyddiwyd y cyllid hanfodol hwn i wneud arosiadau ysbyty yn fwy cyfforddus ar adeg anodd.

Yn ogystal, rhoddwyd dros £20,000 o eitemau i gleifion trwy apêl cleifion COVID-19 Hywel Dda, rhestr ddymuniadau Amazon, a sefydlwyd gan yr elusen ar ddechrau’r pandemig i ddarparu hanfodion i gleifion pan nad oedd ymweld yn bosib.

Mewn partneriaeth â Elusennau Iechyd Hywel Dda, mae TĂŽm Profiad Claf y bwrdd iechyd wedi bod yn gyfrifol am sicrhau bod eitemau’n cyrraedd y cleifion sydd eu hangen fwyaf.

Dywedodd Emma Haycocks, Rheolwr y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS): “Mae’r cyllid gan NHS Charities Together a’r rhoddion i’n helusen GIG yn Hywel Dda wedi golygu ein bod wedi gallu darparu miloedd o eitemau i helpu ein cleifion yn ystod y pandemig.

“Mae wedi bod yn gyfnod pryderus i gleifion ac mae staff ein GIG wedi wynebu heriau digynsail. Ond mae cefnogaeth y cyhoedd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn. ”

FLO with patient and distraction items

Prynwyd dros 3,000 o eitemau, gan gynnwys gemau, gweithgareddau, celf a chrefft, gliniaduron, eitemau garddio, teganau, posau, llyfrau chwilio geiriau, eitemau gwau ac offer ymarfer corff, i helpu i gadw cleifion yn brysur, yn enwedig pan nad oeddent yn gallu cael ymwelwyr .

Darparwyd trolĂŻau a blychau storio hefyd ar gyfer gollwng eiddo cleifion ar ddechrau’r pandemig.

A phrynodd yr elusen setiau radio, setiau teledu a chwaraewyr DVD i leddfu diflastod yn ystod arosiadau ysbyty a peiriannau sychu dillaf ar gyfer cleifion na allent dderbyn dillad glân gan berthnasau.

Mewn cpartneriaeth rhwng Elusennau Iechyd Hywel Dda a Cangen De Orllewin a Chanolbarth Cymru o Eglwys Iesu Grist o Saint y Dyddiau Diwethaf, prynwyd dros 1,000 o becynnau croesoyn cynnwys masgiau llygaid, plygiau clust, clustffonau, cribau, brwsys dannedd a past – i helpu i wneud arhosiad claf yn yr ysbyty yn fwy cyfforddus.

A phrynwyd dyfeisiau meddygol ychwanegol i helpu i hwyluso eu rhyddhau a galluogi cleifion i gael gofal yn eu cartrefi eu hunain.

Cyflenwodd yr elusen grysau polo lliw unigryw ar gyfer y tĂŽm newydd o Swyddogion Cyswllt Teulu (FLOs), a benodwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i sicrhau bod cysylltiad hanfodol rhwng cleifion a’u teulu a’u ffrindiau.

FLO with patient and distraction items

Roedd y Swyddogion yn ased aruthrol, i’r cleifion mwyaf oedrannus a bregus yn benodol, wrth i nifer ohonynt yr ysbyty mewn ambiwlans gyda’r dillad yr oeddent yn eu gwisgo yn unig, heb ddillad nĂ´s nac unrhyw ffordd o gysylltu â’u perthnasau.

Mae mwy na 250 o elusennau’r GIG ledled y DU, sy’n canolbwyntio ar helpu ein gwasanaeth iechyd i wneud mwy. Gyda’i gilydd, mae’r elusennau hyn yn rhoi ÂŁ1m bob dydd i’r GIG fel y gall pobl aros yn iach am fwy o amser a gwella’n gyflymach.

A staff member with some of the toiletries supplied by Hywel Dda Health Charities

Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Elusennau Iechyd Hywel Dda sydd wedi bod yn gweithio y tu Ă´l i’r llenni i godi a dosbarthu arian hanfodol y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.

Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn, fod y gefnogaeth i’r GIG lleol yn ystod y pandemig wedi bod yn rhyfeddol.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol ac NHS Charities Together yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,” meddai Nicola.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle