Mae un mewn tri o bobl yng Nghymru wedi’u heffeithio gan yr argyfwng tai.

0
396

Mae Shelter Cymru yn lansio’r frwydr dros gartrefi da – i Gymru gyfan

Gall Shelter Cymru ddatgelu heddiw bod un mewn tri o bobl yng Nghymru wedi’u heffeithio gan yr argyfwng tai. Mae ymchwil a wnaed ar ran Shelter Cymru yn dangos bod dros filiwn o bobl yng Nghymru yn byw mewn tai sy’n anniogel neu’n anfforddiadwy.

Mae hyn yn cynnwys popeth o deuluoedd sy’n cael eu gorfodi i ddewis rhwng talu rhent neu brynu bwyd, i rentwyr sy’n byw mewn cartrefi sy’n llawn tamprwydd, llwydni a diffyg atgyweirio. Mae’r ffigyrau brawychus yn dangos maint yr her sy’n wynebu Llywodraeth Cymru ac yn dangos pam y dylai cartrefi da fod yn flaenllaw ac yn ganolog i ymrwymiad y Llywodraeth i ailgodi’n gryfach a thecach yn wyneb y pandemig.

Mae’r ymchwil yn dangos y ffyrdd brawychus mae’r argyfwng tai yn effeithio pobl ar draws Cymru gyfan.

  • Mae 1 mewn 6 o bobl – sy’n gyfystyr â thua hanner miliwn o bobl – wedi gorfod torri nôl ar nwyddau hanfodol i’r cartref fel bwyd neu wres er mwyn medru fforddio taliadau rhent neu forgais

  • Mae 1 mewn 6 o bobl – sy’n gyfystyr â thua hanner miliwn o bobl – yn dweud na allant gadw eu cartref yn gynnes yn y Gaeaf

  • Mae bron i 1 mewn 10 – sy’n gyfystyr â chwarter miliwn o bobl – yn byw mewn tai sydd ddim yn strwythurol ddiogel neu sydd â pheryglon fel nam trydanol neu beryglon tân.

  • Mae 1 mewn 6 o bobl – sy’n gyfystyr â thua hanner miliwn o bobl  – yn byw mewn cartrefi gyda lleithder, llwydni neu broblemau cyddwysedd.

  • Mae 1 mewn 10 o bobl – sy’n gyfystyr â thua 300,000 o bobl – yn dweud bod eu cartref presennol yn niweidiol i’w hiechyd meddwl, neu iechyd meddwl eu teuluoedd.

Yn ychwanegol i’r uchod, rydym yn gwybod mai pobl ar yr incwm isaf sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng tai. Yn anffodus, mae hyn yn aml yn cynnwys pobl mewn grwpiau ethnig lleiafrifol, pobl ag anableddau, aelodau o’r gymuned LHDT a phobl gyda nodweddion gwarchodedig eraill. Adlewyrchir hyn yn ein hymchwil, a ganfu bod oddeutu 120,000 o bobl wedi cael eu rhwystro rhag cael cartref addas o ganlyniad i ragfarn.

Nawr yw’r amser i wleidyddion a phleidiau ddod at ei gilydd yn lleol ac yn genedlaethol i weithredu ar eu haddewidion, yng ngholeuni’r canfyddiadau hyn: adeiladu o leiaf 20,000 o dai cymdeithasol newydd o ansawdd da; helpu’r miloedd o bobl sydd wedi eu prisio allan o rentu neu brynu; a sicrhau bod teuluoedd sy’n cael eu gwthio i ddigartrefedd ddim yn gaeth mewn llety dros dro, a bod neb yng Nghymru yn cael eu gorfodi i gysgu ar y stryd.

Cafodd Merlin, o Gasnewydd, ei droi allan gan ei landlord ychydig ddyddiau cyn i’w barner roi genedigaeth. Cafodd gefnogaeth gan Shelter Cymru a meddai ef:

“Pan symudon ni i’r fflat yn ystod y pandemig, wynebon ni o leiaf 54 o broblemau naill ai o ran cynnal a chadw neu atgyweiriadau oedd angen eu gwneud yn y cyfnod hwnnw. Roedd y sŵn o’r fflat uwchben yn annioddefol ar adegau pan symudon ni fewn gyntaf. Roedd y carped yn eithriadol o frwnt, ond roedd y landlord yn gwrthod ei lanhau. Roedd dŵr yn gollwng drwy’r nenfwd yn y lolfa, roedd y ffwrn wedi torri, roedd twll llygoden yn yr ystafell ymolchi, a mae’r rhestr yn parhau.

Ddeuddydd ar ôl ymateb i gais gan y landlord am restr gyflawn o’r holl broblemau oedd yn y fflat, dywedwyd wrthym am adael. Dyma’n syml yr achos mwyaf amlwg o droi allan dialgar credaf ei bod yn bosib dod ar ei draws, a roeddem yn sal o feddwl am y pwysau ychwanegol ar fy mhartner a’r plentyn yn y groth”.

Meddai Ruth Power, Prif Swyddog Gweithredol Shelter Cymru:

“Yn Shelter Cymru, rydym yn gwybod mai cartref yw popeth. Mae’r ymchwil hwn yn dangos yr heriau a wynebodd gymaint o bobl yng Nghymru yn ystod y pandemig. Ond yn anffodus dydy’r heriau hyn ddim yn newydd – maent yn broblemau  hir dymor sydd angen gweithredu beiddgar ac uchelgeisiol i’w datrys.

Cartrefi da yw sylfaen ein bywydau ni i gyd. Maent yn caniatau i bobl fynd i’r gwaith bob dydd heb boeni ynghylch beth fyddan nhw’n dod gartref iddo. Maent yn caniatau i blant ffynnu yn yr ysgol. Maent yn rhoi i ni y cysur, diogelwch a sicrwydd sy’n hanfodol i fywydau iach, hapus a chynhyrchiol.

Mae ein hymchwil yn dangos graddfa a difrifoldeb yr argyfwng tai yng Nghymru, ac yn dangos bod angen gweithredu brys. Dros y teuluoedd sy’n mynd heb fwyd i gadw to uwch eu pen; dros y rhwntwyr sy’n cael eu bygwth gyda throi allan oherwydd bod Covid wedi eu gwthio i ddiweithdra; dros y genhedlaeth o bobl ifanc na fydd byth yn gwireddu’r freudwyd o rentu neu brynu eu cartref eu hunain – bydd Shelter Cymru bob amser yn brwydro dros gartref, a thros bawb sydd heb un.”

Ymunwch â Shelter Cymru a helpwch ni i frwydro dros gartref. Gyda’n gilydd, gallwn ddod â’r argyfwng tai i ben, unwaith ac am byth.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle