SIOP GYMUNEDOL A SWYDDFA BOST DRYSLWYN:

0
1841

Gan dorri tir newydd yn Sir Gâr, mae Siop Gymunedol a Swyddfa Bost Dryslwyn yn hynod falch o fod wedi ennill Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol. Caiff y wobr hon ei disgrifio fel MBE y Gwasanaeth Gwirfoddol a dyma’r wobr uchaf y gall grŵp gwirfoddol ei hennill.

Yn 2008 pan gaeodd 2,500 o swyddfeydd post roedd Dryslwyn ar y rhestr fel un ohonyn nhw.  Ond yn lle hynny, drwy ymdrechion rhyfeddol ar lawr gwlad, cafodd y Siop Gymunedol ei lansio, ac mae wedi gwasanaethu’r gymuned yn llwyddiannus byth ers hynny. Diolch i’r agwedd fentrus honno, llwyddodd y gwasanaeth hanfodol hwn barhau drwy gydol pandemig y coronafeirws, er gwaetha’r newidiadau radical roedd eu hangen. 

“Mae’n anrhydedd enfawr, allwn ni ddim bod yn fwy balch,” meddai Helen Evans, cyn-filfeddyg lleol sy’n gweini wrth y cownter ac sy’n un o Gyfarwyddwyr y siop. “Mae cymaint ohonon ni yn y gymuned yn gwirfoddoli i’r siop, mae’n hyb cymunedol go iawn.  Mae pobl yn dod am fwy na’u siopa, mae’n rhywle i fod yn siŵr o gael wyneb cyfeillgar, sgwrs dda yn y Gymraeg neu’r Saesneg, a chefnogaeth gymdogol pan fydd ei hangen hi arnoch chi fwya.”

 Dywedodd Nigel Jones, gwirfoddolwr yn y swyddfa bost a Chadeirydd tîm prosiect gafodd ei sefydlu i ddylunio a chyllido adeiladu siop newydd (SiopNEWydd) ar safle sydd 100 llath yn unig o’r siop bresennol: “Mae’r wobr yma’n newyddion gwych i bawb.   Mae’n cydnabod y rôI hanfodol sydd gan y siop yn ein cymuned ni, ac yn pwysleisio pwysigrwydd parhau i adeiladu ar y llwyddiant yma yn y dyfodol.” 

Mae Siop Dryslwyn yn un o 241 o elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol i dderbyn y wobr fawreddog hon eleni. Bob blwyddyn caiff nifer sylweddol o enwebiadau eu derbyn, sy’n dangos pa mor egnïol mae’r sector wirfoddol yn cyfrannu at wella bywyd i bawb yn y gymuned. 

Mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn cydnabod gwaith rhagorol gan grwpiau gwirfoddol er budd eu cymunedau lleol. Cafodd ei chreu yn 2002 i ddathlu Jiwbilî Aur y Frenhines a dyma’r MBE ar gyfer grwpiau gwirfoddol.  Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi bob blwyddyn ar 2 Mehefin, pen-blwydd Coroni’r Frenhines. Mae enillwyr y wobr eleni o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yn cynnwys grwpiau gwirfoddol mor amrywiol â Siop Gymunedol Dryslwyn; gwasanaeth bws mini yng Nghymbria; gorsaf radio gymunedol yn Inverness; a thîm achub mynydd ym Mhowys. 

Croesawodd y Cynghorydd Cefin Campbell y newyddion yn gynnes gan ddweud pa mor gadarnhaol mae hyn i Sir Gâr a’r ardal leol.  Dywedodd bod y wobr yn talu teyrnged i waith caled, gwydnwch ac ymroddiad eithriadol holl wirfoddolwyr Dryslwyn. Aeth yn ei flaen i ganmol uchelgais aelodau’r gymuned sydd bellach yn canolbwyntio ar ddylunio a chodi arian i adeiladu eu hadeilad eu hunain ar gyfer y SiopNEWydd.

Bydd Siop Dryslwyn yn derbyn tystysgrif a gwobr grisial gan Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Dyfed, yn ddiweddarach yr haf hwn.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle