Covid Hir yn rhoi ‘baich enfawr’ ar deuluoedd sydd wedi goroesi’r feirws, yn ôl ymchwil newydd

0
474

Galwad am ‘system gymorth’ i deuluoedd y mae Covid wedi effeithio’n ddifrifol ar eu bywydau

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Swydd Hertford wedi datgelu’r “baich eilaidd” enfawr sydd ar y rhai agosaf at bobl sy’n byw gyda Covid Hir.

Fe holodd yr ymchwilwyr dros 700 o oroeswyr Covid-19 yn ogystal â’u partneriaid a’u perthnasau agos i ddeall am y tro cyntaf yr effaith y mae’r clefyd yn ei chael ar deuluoedd cyfan.

Mae’r canfyddiadau, a gyhoeddwyd heddiw yn BMJ Open, yn awgrymu ei fod yn “effeithio’n ddifrifol” ar ansawdd bywyd teuluoedd a bod angen system gymorth o bwys ar gyfer y goroeswyr a’r rhai sydd agosaf atynt fel ei gilydd.

Siaradodd goroeswyr a’u teuluoedd am yr effaith enfawr ar eu bywydau gan gefnogi galwadau am fwy o gefnogaeth.

Mae Billie-Jo Redman, 27, mam o Essex, yn dioddef o flinder, niwl ymennydd a thonnau beunyddiol o binnau bach, ac ar adegau mae ganddi gyfradd curiad y galon mor uchel mae’n rhaid iddi wisgo monitor calon 24 awr.

“Mae fy mywyd yn teimlo fel ei fod ar ben. Roeddwn i’n arfer mynd ar anturiaethau gyda fy mab Roman – nawr mae gen i ddiwrnodau lle na allaf hyd yn oed fynd ag ef i’r ysgol,” meddai.

Dywedodd y prif awdur Rubina Shah, myfyriwr PhD yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Rydym ni i gyd wedi gweld yr effaith ddinistriol y gall Covid hir ei chael ar oroeswyr, ond ychydig iawn rydym ni wedi ei glywed am sut gall effeithio ar fywydau eu hanwyliaid.

“Mae ein hastudiaeth yn dangos sut mae’r clefyd yn effeithio ar gleifion Covid yn y lle cyntaf ac yna ar eu hanwyliaid. Mae’n effeithio ar bopeth gan gynnwys eu pryderon a’u rhwystredigaethau, eu gallu i fwynhau gweithgareddau teuluol, ac i bartneriaid yn benodol, yr effaith ar eu perthynas a’u bywyd rhywiol.

“Gall Covid gael effaith ddwys a phara amser maith; mae angen system gymorth gyfannol sy’n ystyried anghenion goroeswyr a’u teuluoedd i helpu i leddfu’r baich hwn.”

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae gan un o bob pump o bobl symptomau Covid Hir bum wythnos ar ôl cael yr haint yn y lle cyntaf, ac mae’r un peth yn wir am un o bob saith ohonynt ar ôl 12 wythnos. Yn ystod y pedair wythnos o 6 Chwefror, amcangyfrifwyd bod 1.1 miliwn o bobl yn y DU yn cael eu heffeithio.

Fe gynhaliodd yr ymchwilwyr yr astudiaeth gan fod cyn lleied o wybodaeth am brofiad teuluoedd pan mae gan un aelod Covid Hir. Roedden nhw o’r farn ei bod hi’n hanfodol asesu hyn er mwyn ceisio deall pa gymorth a allai fod ei angen arnynt.

Yr haf diwethaf, fe gynhaliwyd arolwg ar-lein byd-eang i fesur effaith, a chafodd ei gwblhau gan 735 o oroeswyr Covid-19 tua 12 wythnos ar ôl cael diagnosis, yn ogystal â 571 o bartneriaid a 164 o berthnasau.

Daeth i’r amlwg mai “teimlo’n bryderus” oedd yr hyn yr effeithiwyd arno fwyaf (94%), ac yna gweithgareddau teuluol (83%), teimladau o rwystredigaeth (82%), teimlo’n drist (78%), cwsg (69%) a bywyd rhywiol (68%). Nododd dau o bob tri (66%) yr effaith ar wyliau, a nododd dros hanner (56%) fod costau’r teulu yn uwch.

Roedd gwahaniaeth sylweddol rhwng dynion a menywod ymhlith aelodau’r teulu, gyda menywod yn teimlo’n fwy trist, a’i fod yn cael mwy o effaith o ran teithio bob dydd ac ar eu cwsg. Nododd llawer mwy o ddynion na menywod am yr effaith ar fywyd rhywiol.

Dywedodd yr ymchwilwyr fod y canfyddiadau’n awgrymu y dylai llunwyr polisïau ystyried datblygu a chomisiynu ystod o wasanaethau cymorth, gan gynnwys cwnsela iechyd meddwl sy’n seiliedig ar anghenion, a grwpiau cymorth lleol.

‘Effaith drasig ar ein bywydau’

Profodd Billie-Jo, nad oedd ganddi unrhyw broblemau iechyd o’r blaen, yn bositif ar 9 Ionawr gyda symptomau Covid arferol. Ar ôl 10 diwrnod roedd hi’n iawn ond erbyn diwedd mis Chwefror roedd hi’n teimlo ei bod hi’n “marw wrth sefyll”.

Symudodd o Lundain i Essex cyn y cyfnod clo cyntaf felly nid oes ganddi lawer o gefnogaeth deuluol oherwydd eu bod yn byw yn rhy bell i ffwrdd ac yn teimlo bod ei salwch wedi cael effaith enfawr ar fywyd gyda’i mab.

“Nid yw’r ysbyty’n gwybod beth i’w wneud gyda mi. Gallan nhw weld bod cyfradd curiad fy nghalon yn rhy uchel, ond nid ydynt yn gwybod pam, ”meddai.

“Mae popeth wedi newid. Mae fy mywyd yn teimlo fel ei fod ar ben. Roeddwn i’n arfer mynd ar anturiaethau gyda fy mab Roman – nawr mae gen i ddiwrnodau lle na allaf hyd yn oed fynd ag ef i’r ysgol. Mae wedi cael effaith drasig ar ein bywydau bob dydd. Mae angen mwy o gefnogaeth i deuluoedd.”

Dywedodd Ms Shah: “Ein hymchwil yw’r un gyntaf i edrych ar effaith y clefyd dinistriol hwn ar bartneriaid a theuluoedd goroeswyr.

“Mae mor bwysig ein bod yn deall anghenion anwyliaid goroeswyr er mwyn sicrhau lles teuluoedd yn gyffredinol.”

Dywedodd yr ymchwilwyr fod angen gwneud gwaith yn y dyfodol i weld am ba hyd y mae’n cael effaith ar aelodau’r teulu ac i weld a yw’r effaith deuluol yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau ethnig.

Gallai ymchwil bellach hefyd gynnwys asesu effaith ymyriadau, cynnal astudiaethau lleol i lywio polisïau ac ymarfer wrth gynllunio gwasanaethau cymorth lleol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle