Y sianel yn croesi’r Sianel ar gyfer Le Tour de France

0
717
From fleece to carpet – a woolly journey

Roedd dangos Le Tour de France yn un o uchelfannau darlledu chwaraeon ar S4C y llynedd – ac mae’r sianel yn croesi’r Sianel eto eleni ar gyfer ras seiclo fwya’r byd.

Bydd Seiclo: Le Tour de France yn dilyn y ras dros dair mil cilometr o hyd, o Sadwrn 4, Gorffennaf hyd Sul, 26 Gorffennaf, gyda rhaglenni byw ar y lôn bob prynhawn, ac uchafbwyntiau cynhwysfawr gyda’r nos.

Bydd y ras yn cychwyn yn yr Iseldiroedd eleni cyn croesi i wlad Belg a gogledd Ffrainc, ac yna i’r de – ac i grombil mynyddoedd yr Alpau – cyn gorffen ym Mharis.

Bydd ‘Tîm S4C’ yno bob cam o’r ffordd yng nghwmni’r sylwebwyr Wyn Gruffydd, Gareth Rhys Owen, John Hardy, y brodyr cerddorol ‘seiclonig’ Peredur ap Gwynedd a Rheinallt ap Gwynedd a’r seiclwr proffesiynol o Aberystwyth, Gruff Lewis, dyweddi Geraint Thomas, Sara Elen Thomas – i gyd o dan arweiniad y prif gyflwynydd Rhodri Gomer Davies.

“Roedd cael bod yn rhan o’r Tour de France y llynedd yn brofiad bythgofiadwy.  Rwy’n cofio gwylio’r ras yn blentyn, ac roedd cael bod yno yn y cnawd gydag S4C yn anhygoel,” meddai Rhodri, sy’n wreiddiol o Gaerfyrddin, yn ohebydd ar y rhaglenni cylchgrawn Heno a Prynhawn Da ac yn gyn chwaraewr rygbi gyda Northampton, Y Dreigiau a’r Scarlets.

“Mae’r hyn mae’r seiclwyr yn ei wynebu yn anghredadwy. Bron i dair mil a hanner o gilometrau, dros 21 cymal, a hynny i gyd o fewn tair wythnos o seiclo, gydag ond deuddydd i adfer yn y canol. Mae’r bois yma yn ‘superhuman’, yn ymroi eu bywydau yn llwyr i’w camp, ac i ni’r Cymry, mae cyfraniad Geraint Thomas i’w dîm dros y blynyddoedd diwetha’ wedi ysbrydoli nifer o bobl i ymddiddori mewn seiclo.”

Dechreuodd Rhodri seiclo o ddifrif pan benderfynodd e a’i ffrind a’r cyn chwaraewr rygbi, Richard Parks, godi arian at blant amddifad yng Nghenia trwy seiclo yn 2011. Roedd yn gymaint o lwyddiant, fe sefydlodd Her Seiclo Cymru y flwyddyn ganlynol, elusen sydd wedi codi dros gan mil o bunnoedd at elusennau amrywiol ers hynny.

Yn ogystal â’r seiclo ei hun, mae Rhodri yn hoff iawn o’r holl hanes sy’n perthyn i’r Tour de France.

“Mae digon o arwyr fel Eddie Merckx, a hyd yn oed y dihirod fel Lance Armstrong. Mae pob un yn chwarae rôl yn y stori ryfeddol. Mae’r gwrthdaro diweddar rhwng dau enillydd o’r un tîm, sef Syr Bradley Wiggins a Chris Froome o dîm Sky, hefyd wedi ychwanegu rhywfaint o sbeis at y daith.

 

“Dwi ffaelu aros i’r ras ddechrau nawr. Rwy’n gobeithio y bydd y dechreuad cystal eleni yn yr Iseldiroedd ag yr oedd yn Swydd Efrog y llynedd. Vincenzo Nibali oedd yr enillydd haeddiannol y llynedd, a gobeithio y cawn ni gystal ras eto eleni.”

Seiclo: Le Tour de France

Sadwrn 4 Gorffennaf – Sul 26 Gorffennaf, S4C

Yn fyw yn y prynhawn

Uchafbwyntiau gyda’r nos 

Gwefan: s4c.cymru            

Cynhyrchiad Sunset+Vine Cymru ar gyfer S4C


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle