Diolch i’n meddygfeydd teulu

0
249

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am estyn diolch i’r gwasanaeth gofal sylfaenol am yr ymrwymiad a’r egni a ddangosir gan feddygfeydd teulu, sydd bron â chwblhau cynnig ail ddos i bob claf sydd wedi’i frechu yn eu practis meddyg teulu.

Ymunodd pob un o’r 48 meddygfa ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i gyflawni’r rhaglen, gan ymrwymo i gyflwyno’r rhaglen i rai grwpiau blaenoriaeth JCVI.

O’r holl ddosau a roddwyd hyd yma yn y tair sir, mae bron i 213,000 o frechlynnau (51%) wedi’u rhoi gan feddygfeydd teulu. Mae meddygfeydd bellach ar eu ffordd i gyflawni’r dasg o gynnig ail ddos i bob claf sydd wedi cael brechlyn cyntaf ac sydd eisoes wedi rhoi 96,500 dos brechlyn ar adeg cyhoeddi’r darn hwn.

Dywedodd Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Gofal Sylfaenol “O gael y profiad o redeg y rhaglen frechu yn fy mhractis fy hun, rwy’n gwybod pa mor heriol a gwerth chweil yw hi i fod yn rhan o’r rhaglen hon. Mae’n dyst i ymrwymiad ein meddygfeydd i gyflawni y gofal gorau posibl i gleifion eu bod wedi parhau i weithio gyda ni trwy gydol y rhaglen.”

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gwasanaethau Cymunedol a Gofal Hirdymor “Rwy’n falch o’r ymrwymiad a ddangoswyd gan ein holl feddygfeydd a’r gwaith rhagorol y maent wedi’i wneud wrth helpu’r Bwrdd Iechyd i gyflawni’r rhaglen hon. Trwy gydol y pandemig nid yw’r ymrwymiad i gynnal darpariaeth gwasanaethau meddygol cyffredinol i’w cleifion wedi ildio, er bod staff dan bwysau ac yn teimlo’n flinedig. Mae cyflwyno’r rhaglen frechu wedi bod yn ymdrech system gyfan i amddiffyn ein cleifion.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle