Partneriaeth y Parc yn parhau â’r frwydr yn erbyn rhywogaethau goresgynnol

0
284
Capsiwn: Yn ogystal â newid ymddangosiad ardal, fel sy'n amlwg o'r lluniau hyn o safle Penrallt, mae Jac y Neidiwr hefyd yn lleihau amrywiaeth yn y dirwedd flodau.

Mae prosiect sy’n cael ei redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i fynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol wedi ennill momentwm dros yr wythnosau diwethaf, ac mae’r Awdurdod nawr yn gofyn i aelodau’r cyhoedd am eu cefnogaeth.

Dechreuodd y prosiect Pwyth mewn Pryd yn 2015 gyda chynllun peilot yn nalgylch Cwm Gwaun, ac ers hynny mae wedi cael ei ymestyn ar draws pedwar dalgylch lleol arall, yn ogystal â safleoedd llai ar draws y Parc Cenedlaethol.

Capsiwn: Yn ogystal â newid ymddangosiad ardal, fel sy’n amlwg o’r lluniau hyn o safle Penrallt, mae Jac y Neidiwr hefyd yn lleihau amrywiaeth yn y dirwedd flodau.

Mewn partneriaeth â’r rheolwyr, gwirfoddolwyr cymunedol lleol a chontractwyr Gwasanaethau Coetir Cynaliadwy Gorllewin Cymru, gellir defnyddio dull gweithredu hynod effeithiol a chyson, gan ddyblygu’r gwaith a gafodd ei wneud yn y dalgylch peilot gwreiddiol ar raddfa safle llawn.

Yn ystod yr Wythnos Rhywogaethau Goresgynnol diweddar a gynhaliwyd yn ystod wythnos olaf mis Mai, gweithiodd gwirfoddolwyr a staff yn galed i dynnu Jac y Neidiwr oddi ar dir gerllaw Canolfan Arddio Penrallt yn Nhrewyddel.

Ar ôl cael ei weld fel ychwanegiad egsotig i erddi Fictoraidd, mae Jac y Neidiwr nawr ar wasgar ledled Ynysoedd Prydain, diolch i’w allu i ollwng miloedd o hadau i’r dirwedd gyfagos a’r dyfrffyrdd cyfagos. Gan ei bod yn rhywogaeth estron oresgynnol mae’n gallu bod yn drech na phlanhigion eraill, gan sefydlu ungnwd a lleihau amrywiaeth ar draws safleoedd a hyd yn oed dalgylchoedd cyfan. Dangoswyd hefyd bod Jac y Neidiwr yn effeithio ar bryfed peillio drwy wyro llwybrau hedfan a lleihau faint o faeth sy’n cael ei gymryd.

Capsiwn: Mae dalgylch arfordirol Porthgain yn fan arall lle mae’r strategaeth hon yn cael ei chymhwyso’n llwyddiannus.

Dywedodd Cydlynydd Prosiect Rhywogaethau Estron Goresgynnol yr Awdurdod, Matthew Tebbutt: “Nod canolog y prosiect hwn yw codi ymwybyddiaeth ymysg unigolion, cymunedau a thirfeddianwyr ynghylch rhywogaethau estron goresgynnol, a meithrin capasiti i fonitro’r sefyllfa ar ôl i’r buddsoddiad hwn ddod â thir i gyflwr haws ei reoli.

“Mae angen i ni wybod ble mae Jac y Neidiwr yn bresennol, ond mae gwybod lle mae’r planhigyn yn absennol yr un mor bwysig. Rydyn ni’n gofyn i aelodau o’r cyhoedd, preswylwyr ac ymwelwyr gysylltu â chofnodion Presenoldeb ac Absenoldeb, yn enwedig o ardaloedd ger dŵr, llwybrau troed cyhoeddus a gwrychoedd, gan fod hyn yn creu darlun strategol o safle neu ddalgylch.

“Mae hefyd yn helpu i nodi ble i ganolbwyntio adnoddau cyfyngedig ac yn sicrhau nad yw’r pla’n digwydd eto, gan ddiffodd y banc hadau o fewn ychydig o dymhorau. Mae dalgylch arfordirol Porthgain yn fan arall lle mae’r strategaeth hon yn cael ei chymhwyso’n llwyddiannus.

Capsiwn: Mae blodau Jac y Neidiwr yn troi’n bodau hadau dan bwysau ac yn byrstio pan fyddant wedi’u cyffwrdd, gan wasgaru hadau ar draws ardal fawr.

“Mae’r blodau blynyddol goresgynnol hyn yn binc, neu weithiau’n wyn, rhwng diwedd Mehefin a mis Hydref ac mae’n fwyaf amlwg yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst.”

Mae’r gwaith wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth gan gronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a grant Mannau Lleol ar gyfer Byd Natur a sicrhawyd gan Awdurdod y Parc.

I gyflwyno cofnodion neu gael cyngor ar Rywogaethau Goresgynnol, cysylltwch â Matt Tebbutt yn matthewt@arfordirpenfro.org.uk neu drwy ffonio 01646 624800.

Mae rhagor o fanylion am y prosiect Pwyth mewn Pryd ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/cadwraeth/rhywogaethau-estron-goresgynnol/pwyth-mewn-pryd/.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle