Elusennau Iechyd Hywel Dda ar godi arian gan ddau blentyn 8 oed

0
270
Yn y llun gwelir Macsen (chwith) ac Elis yn cyflwyno eu siec i Uwch Reolwr Nyrsio Ysbyty Glangwili Nerys Lewis (chwith) a Rheolwr Gwasanaeth yr Ysbyty, Caryl Bowen.

Mae dau ffrind gorau wyth oed o Bontyberem wedi codi £2,110 i Ysbyty Glangwili.

Roedd Macsen Harris ac Elis Eynon yn rhedeg milltir y dydd am 28 diwrnod yn y parc lleol oherwydd eu bod eisiau cefnogi eu gwasanaeth iechyd lleol yn ystod y pandemig COVID-19.

Fe wnaethant redeg mewn glaw, rhew a hyd yn oed eira, ac roeddent yn benderfynol o gwblhau’r her.

Dywedodd Macsen: “Penderfynais redeg milltir y dydd am 28 diwrnod ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda oherwydd roeddwn i eisiau helpu pobl leol trwy COVID.”

Dywedodd Elis ei fod eisiau helpu ei ffrind gorau Macsen gyda’i ymgyrch , “a chodi rhywfaint o arian i ddweud diolch yn fawr am yr holl waith caled y mae’r staff wedi’i wneud ac y parhau i wneud gyda’r COVID a hefyd oherwydd bod yn rhaid i’m chwaer ymweld â’r ysbyty yn rheolaidd i gael ei harchwiliadau.”

.Yn y llun gwelir Macsen (chwith) ac Elis yn cyflwyno eu siec i Uwch Reolwr Nyrsio Ysbyty Glangwili Nerys Lewis (chwith) a Rheolwr Gwasanaeth yr Ysbyty, Caryl Bowen.

Meddai Caryl: “Roedd Ysbyty Glangwili yn falch iawn o dderbyn siec a gyflwynwyd gan Macsen Harries ac Elis Eynon.

“Ar ôl cael ei ysbrydoli gan y Capten Tom Moore, penderfynodd Macsen ei fod eisiau gwneud rhywbeth tebyg a chodi arian i helpu pobl yn ystod y pandemig. Trefnodd i redeg milltir y dydd ac roedd yn gobeithio codi cwpl o gannoedd o bunnoedd.

“Ymunodd ei ffrind Elis â’r her fel ffordd o helpu ac i dreulio rhywfaint o amser cymdeithasol gyda’i ffrind.

“Maen nhw wedi codi cryn dipyn o arian ac mae’n debyg eu bod yn chwilio am eu her nesaf yn barod. Diolch Macsen a Elis.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle