“Gadael neb ar ôl” wrth i raglen frechu ragorol Cymru barhau

0
340
MERTHYR TYDFIL, WALES - JANUARY 04: A close-up of a Oxford-AstraZeneca vaccine vial containing 10 doses at Pontcae Medical Practice on January 4, 2021 in Merthyr Tydfil, Wales. The Oxford-AstraZeneca COVID-19 vaccine was administered at a handful of hospitals today before being rolled out to hundreds of GP-led sites across the country this week.
Bydd pawb dros 18 oed yn cael cynnig brechlyn Covid erbyn dechrau’r wythnos nesaf, wrth i’r Prif Weinidog Mark Drakeford ganmol y bobl y tu ôl i raglen frechu Cymru sy’n arwain y byd.
Mae disgwyl y bydd y gyfradd o bobl sydd wedi manteisio ar y cynnig i gael eu pigiad cyntaf yng Nghymru yn cyrraedd 75% ar draws yr holl grwpiau blaenoriaeth a grwpiau oedran fis ynghynt na’r targed – diwedd mis Gorffennaf oedd y garreg filltir wreiddiol – wrth i raglen frechu’r wlad barhau i fynd o nerth i nerth.

Bydd y rhaglen nawr yn canolbwyntio ar frechu cynifer o bobl â phosibl drwy sicrhau bod pawb yn cael cynnig ail ddos erbyn diwedd mis Medi ac nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Rwy’n falch iawn o ddweud bod gan Gymru un o’r rhaglenni brechu Covid gorau yn y byd.

“Byddwn wedi cynnig brechlyn i bob oedolyn cymwys chwe wythnos ynghynt na’r amserlen ac rydym yn disgwyl i’r gyfradd o bobl sydd wedi manteisio ar y cynnig gyrraedd 75% ar draws yr holl grwpiau blaenoriaeth a grwpiau oedran fis ynghynt na’r targed.

“Mae hyn yn dipyn o gamp sy’n deyrnged i waith caled pawb sy’n rhan o’r rhaglen – i’r holl rai sy’n gwneud y gwaith cynllunio cymhleth y tu ôl i’r llenni ac i’r miloedd o bobl sy’n brechu ac yn helpu i gynnal y clinigau ledled y wlad.

“Rydych chi’n gwneud gwaith rhagorol. Rwy’n hynod o falch a diolchgar am bopeth rydych chi’n ei wneud i helpu i ddiogelu Cymru rhag y feirws ofnadwy hwn.”

Mae’r ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos bod 2.18m o bobl, neu 86% o’r boblogaeth oedolion, wedi cael dos cyntaf a bod bron i 1.25m o bobl wedi cael ail ddos.

Mae’r gyfradd o bobl sy’n manteisio ar y cynnig o frechlyn yn fwy na 90% ar gyfer y dos cyntaf ymysg pobl dros 60 oed; gweithwyr gofal iechyd; preswylwyr a staff cartrefi gofal a phawb sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Mae’r Strategaeth Frechu wedi cael ei diweddaru ac yn cael ei hailgyhoeddi heddiw. Mae’n nodi camau nesaf y rhaglen frechu, gan gynnwys lleihau anghydraddoldebau a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd yr ail ddos, yn enwedig gan fod yr amrywiolyn delta newydd yn lledaenu mewn rhannau o’r DU.

Mae hefyd yn nodi’r camau y mae Cymru yn eu cymryd i baratoi ar gyfer unrhyw benderfyniadau gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ynghylch pigiadau atgyfnerthu a brechu plant – cymeradwyodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) frechlyn yr wythnos diwethaf i’w ddefnyddio mewn plant dros 12 oed.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

“Mae llwyddiant ein rhaglen yng Nghymru i’w briodoli i’r trefniadau cyflenwi yr ydym wedi’u datblygu, yn ogystal ag i’n hagwedd benderfynol i ddefnyddio pob diferyn o’r brechlynnau – heb wastraff – ac i storio’r brechlyn ym mreichiau pobl, yn hytrach nag mewn oergelloedd.

“Wrth inni gwblhau’r gwaith o roi dosau cyntaf, byddwn yn rhoi pob gewyn ar waith i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

“Gan ddibynnu ar y cyflenwad o’r brechlynnau, rydym yn hyderus y byddwn yn parhau i gyflenwi’r ail ddos mor gyflym ac mor llwyddiannus â’r dos cyntaf.

“Rydym yn disgwyl y bydd pawb sydd wedi dod ymlaen am eu dos cyntaf yn cael cynnig ail ddos erbyn diwedd mis Medi.”

Mae’r Strategaeth Frechu wedi’i diweddaru ar gael yn https://llyw.cymru/strategaeth-frechu-covid-19-i-gymru-diweddariad-mehefin-2021


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle