Diolch i grant gan Apêl Brys COVID-19 NHS Charities Together, rydym wedi gallu prynu canllawiau arbennig ar gyfer tadau newydd i helpu gyda’r cychwyn gorau i deuluoedd ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae staff yng Ngwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol y bwrdd iechyd yn defnyddio’r DadPads® 38-tudalen i helpu tadau newydd i ddatblygu’r meddylfryd a’r sgiliau ymarferol angenrheidiol, eu helpu i fagu hyder a rhoi’r offer iddynt i ddarparu’r gefnogaeth orau ar gyfer babi.
Gyda llai o glinigau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb o ganlyniad i’r pandemig, mae’r DadPads® wedi bod yn adnodd gwerthfawr a dywedodd yr Arweinydd Arbenigol, Jane Whalley, eu bod eisoes wedi derbyn adborth gwych gan dadau a oedd wedi’u derbyn.
“Mae tadau newydd yn awyddus iawn i gael y canllawiau hyn i roi cefnogaeth iddynt, yn enwedig gyda llai o gyswllt wyneb yn wyneb yn ystod y pandemig. Mae’n dda i iechyd meddwl y babi a’r tad.” meddai Jane.
“Rydyn ni wedi bod yn defnyddio’r canllawiau ers yr haf diwethaf ac, ar ôl i dadau orffen gyda nhw, maen nhw’n cael eu dychwelyd atom ni a gan ein bod yn gallu eu sychu, gallwn eu hailddefnyddio.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth sydd wedi ein galluogi i brynu’r DadPads® hyn. Mae gennym hefyd mewn fersiwn Gymraeg electronig a fersiwn hawdd ei darllen.”
Mae’r canllaw yn cynnwys cyngor ar fwydo, dal a thrafod y babi, gofalu am fabi sy’n crio, cysgu, newid cewyn, ymdrochi, bondio a chyfathrebu, chwarae a dysgu, cymorth cyntaf, datblygiad plant a cherrig milltir, perthnasoedd, a chyngor rhianta a cefnogaeth.
Lansiwyd Apêl COVID-19 gan NHS Charities Together ym mis Mawrth y llynedd i helpu gydag effaith y pandemig ar staff y GIG.
#EichElusenGIG #GwneudGwahaniaeth #NHSCharitiesTogether
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle