Diogelwch rhag Tân: Archwiliadau Fideo o Bell – llwyddiant yn ystod y coronafeirws

0
448
Business Fire Safety Inspection Officer

Mae ymateb i’r pandemig coronafeirws wedi golygu newid yn arferion gweithio y mwyafrif o ddiwydiannau, ac nid oedd adran Diogelwch rhag Tân Busnesau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn eithriad yn hyn o beth. Yn rhan o weithgareddau rheoleiddio yr adran, o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, mae arolygwyr o’r Gwasanaeth yn cynnal oddeutu 1,000 o archwiliadau cynlluniedig y flwyddyn o adeiladau a bennir ar gyfer eu rhaglen archwilio ar sail risg. Mae’r math o adeiladau a archwilir yn amrywio, ond maent yn cynnwys gwestai, ysbytai, adeiladau gofal preswyl, sefydliadau addysg, rhannau cymunedol Adeiladau Preswyl Uchel Iawn, ac adeiladau annomestig eraill.

O ganlyniad i adolygiad o’r gwaith archwilio i asesu risg a gynhaliwyd yn dilyn y cyfyngiadau symud cyntaf, ataliwyd yr holl weithgarwch archwilio, a dim ond i wneud gwaith ymatebol a gorfodi yn unig yr oedd y tîm Diogelwch rhag Tân yn cynnal ymweliadau wyneb yn wyneb.

Wrth i’r camau amrywiol o ran y cyfyngiadau symud, llacio’r cyfyngiadau ac ailosod y cyfyngiadau fynd rhagddynt, roedd yn amlwg y byddai yna gryn dipyn o oedi, o bosibl, cyn i’r gweithgarwch archwilio ddychwelyd i’r arfer. O ganlyniad, aeth y Pennaeth Diogelwch Tân Busnesau, y Rheolwr Grŵp Sion Slaymaker, ati i ystyried dulliau amgen.

“Roeddwn yn pryderu nad oedd diwedd mewn golwg ar gyfyngiadau’r pandemig, a bod hyn, yn anochel, yn effeithio ar lefel y gwasanaeth a gâi Pobl Gyfrifol y mangreoedd. Nid oeddem yn gallu nodi’r diffygion o ran Diogelwch rhag Tân, y byddid fel arfer yn sylwi arnynt yn ystod archwiliadau, ac ni fyddai’r deiliaid dyletswydd yn y mangreoedd dan sylw yn cael yr oruchwyliaeth a’r sicrwydd a ddarperir o ganlyniad i’n gweithgarwch archwilio. Ar ben hynny, roedd yna gryn bryder y gallai trefniadau Diogelwch rhag Tân gael eu peryglu o ganlyniad i fesurau newydd a oedd yn cael eu gweithredu i liniaru’r posibilrwydd o drosglwyddo’r coronafeirws.”

Yn dilyn adolygiad o’r opsiynau posibl, aeth y tîm Diogelwch Tân Busnesau ati i ddatblygu proses archwilio y gellid ei chynnal yn gyfan gwbl o bell, a hynny trwy ddefnyddio fideoteleffoni.

Credir mai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yw’r Gwasanaeth cyntaf yn y DU i ddatblygu Archwiliadau Fideo o Bell (RVI). Mae RVI yn galluogi swyddogion arolygu Diogelwch Tân Busnesau a pherson cyfrifol mangre benodol i gynnal archwiliad gweledol o’r safonau diogelwch rhag tân yn yr adeilad heb i’r swyddog arolygu fod yn bresennol yn gorfforol. Bwriedir i RVI fod ar ffurf archwiliad strwythuredig a threfnus un i un sy’n defnyddio meddalwedd cyfarfod fideo     ar-lein. Trwy ddefnyddio RVI, gall GTACGC gael cipolwg ar y darpariaethau a’r safonau diogelwch rhag tân cyfredol mewn adeilad, a hynny heb y risgiau sy’n gysylltiedig ag archwilio safle ac, o bosibl, â throsglwyddo’r feirws coronafeirws.

Bydd yr wybodaeth a geir yn ystod yr RVI yn sail i unrhyw gamau pellach sy’n ofynnol, ac yn sicrhau bod mesurau diogelwch rhag tân yn cael eu cynnal yn barhaus i amddiffyn y gweithlu ac aelodau o’r cyhoedd.

Dywedodd y Rheolwr Grŵp, Sion Slaymaker, “Mae defnyddio Archwiliadau Fideo o Bell wedi caniatáu i ni ddychwelyd at y gwaith archwilio mangreoedd targededig sy’n rhan o’n rhaglen archwilio ar sail risg. Mae’r adborth gan yr unigolion cyfrifol a’r deiliaid dyletswydd yn y mangreoedd sy’n cael eu harchwilio wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol, er y cafwyd yr heriau arferol o ran cysylltedd ambell dro. Mae’r RVI bellach yn offeryn archwilio sy’n ffurfio rhan o’n strwythur archwilio arferol, ochr yn ochr â’r ymweliadau wyneb yn wyneb traddodiadol. Mae’n parhau i leihau’r risg o drosglwyddo’r coronafeirws, ond mae iddo hefyd fanteision o ran cynyddu effeithlonrwydd a gostwng costau o ganlyniad i lai o deithio”. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle