Anogir pobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i gael prawf COVID-19 am ddim os oes ganddynt ystod ehangach o symptomau, i helpu i nodi achosion COVID-19 cudd yn ein cymunedau a lleihau nifer y trosglwyddiadau.
Yn flaenorol, dim ond y rhai â thymheredd uchel, peswch parhaus newydd, neu golli/newid blas ac arogl, a gynghorwyd i geisio prawf. Bellach, mae pobl ag unrhyw un o’r symptomau ehangach canlynol sy’n barhaus a/neu’n anarferol iddynt, hefyd yn cael eu hannog yn gryf i gael prawf PCR:
- Symptomau annwyd yr haf – gan gynnwys dolur gwddf, trwyn yn rhedeg, cur pen
- Symptomau tebyg i ffliw, gan gynnwys myalgia (cyhyrau poenus); blinder gormodol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu drwyn llawn; tisian yn barhaus; dolur gwddf a/neu grygni, prinder anadl neu wichian
- Teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cysylltiad ag achos hysbys o COVID-19
- Unrhyw symptomau newydd neu newid mewn symptomau yn dilyn prawf negyddol yn flaenorol
Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau uchod, arhoswch adref ac archebwch brawf PCR trwy borth y DU https://www.gov.uk/get-coronavirus-test neu ffoniwch 119.
Wrth archebu’ch prawf PCR, gofynnir i chi hefyd am eich symptomau: os oes gennych symptomau ehangach annwyd haf neu debyg i ffliw fel y disgrifir uchod, yn hytrach na’r tri symptom clasurol, dewiswch ‘Dim un o’r symptomau hyn’ ac yna dewiswch un o’r opsiynau canlynol i’ch galluogi i gwblhau’r archeb:
- Mae fy nghyngor lleol neu dîm diogelu iechyd wedi gofyn imi gael prawf, er nad oes gen i symptomau neu;
- Rydych chi’n rhan o brosiect peilot y llywodraeth neu;
- Mae meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall wedi gofyn imi gael prawf.
Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Mae nodi heintiau, a allai fel arall fynd heb eu canfod, yn arbennig o bwysig wrth i amrywiadau newydd o’r firws ddod i’r amlwg. Po fwyaf o brofion a gynhelir, yr hawsaf fydd hi i adnabod clystyrau cynnar o achosion a mwtaniadau posib o’r firws.
“Rydym yn gwybod am y grŵp ehangach o symptomau mewn perthynas â COVID-19 ond ni sonnir amdanynt mor aml â’r tri symptom clasurol. Ein nod yw dod o hyd i gynifer o achosion COVID-19 â phosib fel y gallwn atal trosglwyddiad y firws i eraill. Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i ddod â’r pandemig i ben mor gyflym â phosib a helpu i godi’r cyfyngiadau.”
Os ydych wedi cael prawf COVID-19, rhaid i chi barhau i hunan-ynysu nes i chi gael gwybod eich canlyniad, a fydd fel arfer o fewn 24 awr i’r prawf. Os yw’ch canlyniad yn bositif, rhaid i chi hunan-ynysu am 10 diwrnod o’r dyddiad y dechreuodd eich symptomau. Bydd y Tîm Olrhain lleol yn cysylltu â chi hefyd. Os yw’ch canlyniad yn negyddol, gallwch chi ddod â’ch hunan-ynysu i ben, pan fyddwch chi’n teimlo’n ddigon da i wneud hynny.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle